Mae traethau diogel, glân yn hanfodol ar gyfer gwyliau hapus a chymunedau arfordirol sy'n dibynnu ar dwristiaeth. Fodd bynnag, roedd rhai traethau mewn perygl o golli eu dynodiad fel dyfroedd ymdrochi diogel oherwydd nad oedd unrhyw ffordd o fesur neu adrodd ar lefelau llygredd mewn amser real.

Tybiwyd bod lefel y llygredd mewn dyfroedd ymdrochi yr un fath drwy gydol y dydd. Fodd bynnag, datgelodd gwaith ymchwil cynharach a wnaed gan y Ganolfan Ymchwil i Iechyd yr Amgylchedd (CREH) ym Mhrifysgol Aberystwyth y gall lefelau amrywio, a gall sampl a gymerir yn y bore fod yn wahanol iawn i sampl a gymerir yn y prynhawn.

Yr hyn oedd ei angen oedd ffordd o ddarogan ansawdd dŵr mewn amser real er mwyn galluogi pobl i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch p’una ydynt yn teimlo ei bod yn ddiogel i nofio.

Darogan ansawdd dŵr

Roedd ymchwil a wnaed gan dîm y Ganolfan Ymchwil i Iechyd yr Amgylchedd yn canolbwyntio ar sut i wneud y canlynol:

  • darogan ansawdd dŵr môr ar draethau hamdden mewn amser real
  • rhoi gwybod i’r cyhoedd am unrhyw risgiau iechyd pe baent yn dewis nofio yno

Creodd y tîm offeryn darogan risg llygredd (PRF), y gwnaethant ei dreialu ym Mae Abertawe, sef traeth trefol yn ail ddinas fwyaf Cymru. Yna gwnaethant ddatblygu’r offeryn ym Mae Cemaes, sef traeth bach gwledig ar Ynys Môn, a thraethau twristaidd poblogaidd eraill yn Sir Benfro a Cheredigion.

Roedd y canlyniadau o'r holl safleoedd prawf yn dangos gwahaniaethau sylweddol yn y lefelau o lygredd, gan ddibynnu ar bryd y cymerwyd y sampl yn ystod y dydd.

Diogelu iechyd y cyhoedd

Mae’r offeryn darogan risg llygredd yn darogan ansawdd dŵr drwy gydol y dydd. Mae'n diogelu iechyd y cyhoedd drwy roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i benderfynu p'un a yw dyfroedd ymdrochi yn ddiogel. Argymhellir y ‘dewis gwybodus’ hwn ar gyfer dyfroedd hamdden yng nghanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae'r offeryn hefyd yn helpu i ddiogelu dosbarthiad dŵr ymdrochi diogel ar lawer o safleoedd, gan ddiogelu economïau cymunedau sy'n dibynnu ar dwristiaeth.

Mae ymchwil tîm y Ganolfan Ymchwil i Iechyd yr Amgylchedd wedi dylanwadu ar bolisïau ac arferion cyhoeddus yn y DU ac yn rhyngwladol. O ganlyniad i’w ganfyddiadau:

  • adolygodd Sefydliad Iechyd y Byd y Canllawiau ar gyfer Amgylcheddau Dŵr Hamdden Diogel
  • diwygiodd yr Undeb Ewropeaidd ei gyfarwyddeb dŵr ymdrochi sy’n gosod safonau ar gyfer dyfroedd ymdrochi’r UE ac sydd mewn grym ar draws mwy na 22,000 o draethau Ewropeaidd
  • diwygiodd Asiantaeth yr Amgylchedd ei system ar gyfer darogan risg llygredd mewn mwy na 150 o ddyfroedd ymdrochi ar draws y DU

Bu’r ymchwilydd arweiniol, yr Athro Kay, hefyd yn gynghorydd technegol i:

  • Blue Flag International, sy'n gweinyddu Gwobrau'r Faner Las ar gyfer dyfroedd ymdrochi yn fyd-eang
  • Gemau Olympaidd Rio de Janeiro 2016, lle bu’n dadansoddi ac yn adrodd ar ansawdd dŵr ar gyfer digwyddiadau mewn dyfroedd ger y lan oddi ar y traethau o amgylch Rio.

Y tîm ymchwil

Yr Athro David Kay, Dr Mark Wyer, Dr Carl Stapleton, Dr Lorna Fewtrell a Dr Cheryl Davies – Y Ganolfan Ymchwil i Iechyd yr Amgylchedd (CREH), Prifysgol Aberystwyth

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn