Roedd y wobr hefyd yn cymeradwyo ymrwymiad y Coleg i ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr rhyngwladol astudio yng Nghymru, gan gynnig cymorth academaidd a bugeiliol iddynt, a’u helpu i integreiddio i’r gymuned.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi datblygu partneriaethau â cholegau a sefydliadau yn rhyngwladol, gan alluogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn rhaglenni byd-eang; e.e. eu partneriaeth â T-Hub, sefydliad hybu technoleg newydd mwyaf y byd, sydd wedi’i leoli yn Hyderabad, India.

Drwy eu rhaglen Cymru Fyd-eang, gwahoddodd Prifysgolion Cymru T-Hub i Gymru ym mis Gorffennaf 2022. Nod yr ymweliad oedd hwyluso cyfleoedd ymgysylltu ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach gyda diwydiant drwy bartneriaethau. Yn achos addysg bellach, canolbwyntiwyd yn benodol ar gefnogi datblygu sgiliau ar gyfer busnesau sydd newydd gael eu sefydlu.

Dechreuodd yr ymweliad ddeialog barhaus rhwng Coleg Gŵyr Abertawe a T-Hub i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithredu pellach. Arweiniodd hyn at gyflwyno cais Taith llwyddiannus ar y cyd rhwng Coleg Gŵyr Abertawe, T-Hub, a Choleg Caerdydd a’r Fro i gynllunio a datblygu cyfres o gyrsiau cerbydau trydan (EV) byr yn cwmpasu:

• Technoleg cerbydau trydan

• Technoleg ac arloesedd cerbydau trydan

• Entrepreneuriaeth a newid hinsawdd

Yn India a Chymru fel ei gilydd, mae bwlch rhwng dyfodiad cyflym technolegau newydd a chyrsiau sydd ar gael i hyfforddi entrepreneuriaid ifanc mewn sgiliau gwyrdd, yn ogystal â pha mor gyflym y caiff cyrsiau newydd eu creu. Y gobaith yw y bydd prosiect Llwybr 2 Taith i ddatblygu’r cyrsiau byr, hyblyg hyn, yn helpu i ateb y galw cynyddol am weithwyr proffesiynol yn y sectorau amgylcheddol a chynaliadwyedd, ac yn cyfrannu at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Meddai Ruth Owen Lewis, Pennaeth Rhyngwladol Coleg Gŵyr Abertawe wrth ennill y wobr:

“Mae’n gymaint o anrhydedd i dderbyn y wobr arwyddocaol hon. Mae manteision rhyngwladoli i fyfyrwyr, staff, yr ystafell ddosbarth a’r cwricwlwm, a’r Coleg cyfan yn aruthrol.

“Ein nod yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yw mynd â’r Coleg i’r byd a dod â’r byd i’r Coleg, gan greu dinasyddion byd-eang gyda gwerthfawrogiad o’r byd yn gyffredinol, ac uchelgais i gyfrannu at gymdeithas fyd-eang. Mae’r wobr hon yn cadarnhau ein bod yn goleg byd-eang blaenllaw, gyda rhyngwladoli yn ganolog i’n holl hanfod, ac mae’n dystiolaeth o ymdrechion ein staff.”

Meddai Gwen Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Prifysgolion Cymru (Rhyngwladol) Cymru Fyd-eang “Rydym yn falch iawn o weld Coleg Gŵyr Abertawe yn derbyn y wobr hon. Mae eu hymrwymiad i ryngwladoldeb o fewn addysg bellach yn gaffaeliad mawr i Gymru, ac rydym yn falch bod y bartneriaeth gyda T-Hub, a hwyluswyd gan Gymru Fyd-eang, wedi bod yn rhan o'u llwyddiant wrth ennill y wobr hon. Llongyfarchiadau i’r tîm yng Ngholeg Gŵyr Abertawe; edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio er mwyn datblygu addysg bellach ryngwladol yng Nghymru.”

Meddai Mahankali Srinivas Rao, Prif Weithredwr, T-Hub, “Yn T-Hub, rydym bob amser yn ceisio cydweithio â sefydliadau a mudiadau o’r un anian sy’n rhannu ein gweledigaeth o feithrin arloesedd ac entrepreneuriaeth. Mae ein partneriaeth â Choleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn enghraifft berffaith o gydweithio o’r fath, lle rydym wedi gallu hwyluso cyfleoedd ymgysylltu ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach â diwydiant drwy bartneriaethau. Rydym yn falch ein bod wedi cyflwyno cais Taith llwyddiannus ar y cyd â Choleg Gŵyr Abertawe a Choleg Caerdydd a’r Fro i gynllunio a datblygu cyfres o gyrsiau cerbydau trydan (EV) byr.”