Bob blwyddyn, mae tanau gwyllt yn llosgi tua 4% o lystyfiant y Ddaear. Oherwydd y gall y lludw o danau gwyllt fod yn gyfoethog mewn llygryddion ac yn agored i erydiad a dŵr ffo, mae'n fygythiad difrifol i gyflenwadau dŵr ac ecosystemau.

Mae ardaloedd sy'n dueddol o fynd ar dân yn darparu dŵr ar gyfer 60% o 100 o ddinasoedd mwyaf y byd a 70% o boblogaeth y DU. Mae tanau gwyllt mawr wedi arwain at gyfyngiadau ar ddŵr yfed, gan effeithio ar filiynau o bobl ac arwain at gostau sylweddol. Yn y DU yn unig, amcangyfrifir bod y diwydiant dŵr yn gwneud colled blynyddol o £16 miliwn oherwydd tanau gwyllt.

Fodd bynnag, ychydig a wyddys am sut i fesur a lliniaru'r risg o halogiad dŵr o danau gwyllt. Aeth y tîm o Abertawe ati i unioni hyn. 

Gan weithio gyda gwyddonwyr, gwasanaethau tân, rheolwyr tir a chyflenwyr dŵr yn y DU, Awstralia, Portiwgal, Sbaen ac UDA, cynhaliodd y tîm bum prif faes ymchwil. Gwnaethant y canlynol:

  • edrych ar sut i fesur cynhyrchiant lludw tanau gwyllt, ei gynnwys halogi, ymddygiad mewn dŵr ac effaith ar ansawdd dŵr
  • datblygu ffordd o feintioli’r lludw a'i ddosbarthiad yn ôl difrifoldeb y tân
  • mesur pa ddulliau sy'n gweithio orau i leihau erydiad a chludo'r lludw i gyrff dŵr
  • creu fframwaith i ragweld a lliniaru’r risg o halogiad dŵr cyn, yn ystod ac ar ôl tanau gwyllt
  • datblygu offeryn modelu ar-lein i fesur symudiad posibl halogion i gyrff dŵr yn dilyn tanau gwyllt gwirioneddol neu bosibl yn y dyfodol.

Manteision amgylcheddol ac economaidd

Mae ymchwil y tîm wedi newid y ffordd mae risgiau amgylcheddol o danau gwyllt yn cael eu hasesu a'u rheoli. Mae’r gwaith wedi gwella gwaith diagnostig ar ôl tanau, rheolaeth tir a darpariaeth dŵr yfed yn Awstralia ac Ewrop, gan ddod â buddion amgylcheddol ac economaidd. 

Yn Awstralia, mae ymchwil y tîm wedi gwneud y canlynol:

  • arbed costau sylweddol i Water New South Wales (WNSW) pan ganfuwyd y gellid ymdrin â risgiau llygredd gan ddefnyddio’r seilwaith trin dŵr presennol
  • helpu WNSW i roi mesurau lliniaru ar waith a oedd yn golygu y gallent barhau i gyflenwi dŵr yfed diogel yn dilyn tanau gwyllt helaeth.

Yn y DU, mae ymchwil y tîm wedi gwneud y canlynol:

  • dangos i’r Gwasanaeth Tân ac Achub ble i ganolbwyntio eu pibellau dŵr yn ystod tân gwyllt mwyaf Lloegr ar Saddleworth Moor, gan leihau colli mawn a halogiad oherwydd llosgi ac erydiad
  • hysbysu United Utilities am opsiynau lliniaru a ble i osod rhwydi bioddiraddadwy, a oedd yn atal lludw a phridd halogedig rhag erydu i'r gronfa ddŵr
  • hysbysu United Utilities am debygolrwydd halogi dŵr yn dilyn tanau posibl yn y dyfodol ac argymell sut i leihau'r risg o halogiad.

Yn Sbaen, mae ymchwil y tîm wedi gwneud y canlynol:

  • helpu Cyngor Ynys Tenerife i roi triniaethau gorchudd tir newydd ar waith gan ddefnyddio deunyddiau o goedwigoedd lleol (naddion pren neu domwellt nodwydd pinwydd) i leihau symudiad lludw a phridd halogedig, gan arbed miliynau mewn costau atgyweirio ac arwain at ganllawiau trin erydiad tân newydd ar gyfer yr Ynysoedd Dedwydd.

Y tîm ymchwil

Yr Athro Stefan Doerr, Athro Cyswllt Cristina Santin, Dr Jonay Neris – Prifysgol Abertawe

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn