Mae pysgota symudol ar wely’r môr, megis llusgrwydo a threillrwydo, yn cyfrif am 35% o ddalfeydd yn fyd-eang ac mae'n werth dros £27 biliwn i economi'r byd. Fodd bynnag, oherwydd ei fod yn golygu llusgo rhwydi pwysol ar draws gwely’r môr, gall achosi difrod ecolegol difrifol.

Mae’r Cyngor Stiwardiaeth Forol yn sefydliad annibynnol, dielw sy’n gosod safonau rhyngwladol ar gyfer pysgota cynaliadwy. Mae ei safonau yn cael eu cydnabod yn eang gan ddefnyddwyr ond maent wedi bod yn destun craffu dwys gan senedd y DU a sefydliadau amgylcheddol fel Greenpeace, sy'n credu bod pysgota ar wely’r môr yn ddinistriol ac na ellir ei ystyried yn gynaliadwy.

Comisiynodd y Cyngor Stiwardiaeth Forol Brifysgol Bangor i ddatblygu adnodd i'w ddefnyddio gan gyrff pysgodfeydd ym mhedwar ban byd i asesu effeithiau amgylcheddol pysgota ar wely’r môr.

Asesu'r effaith amgylcheddol

Gweithiodd y tîm ymchwil gyda rhwydwaith byd-eang o arbenigwyr, gan gynnwys academyddion, sefydliadau ymchwil y llywodraeth a Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig. Dangosodd eu hymchwil fod cynefinoedd gyda mwy o organebau hirhoedlog yn fwy tebygol o gael eu difrodi drwy bysgota ar wely’r môr.

Mae'r adnodd asesu a ddatblygwyd gan y tîm yn amcangyfrif effaith pysgota ar wely’r môr ac yn helpu rheolwyr pysgodfeydd, llunwyr polisi a chadwraethwyr i benderfynu pa fesurau sydd eu hangen i gyrraedd targedau cynaliadwyedd. Gellir defnyddio'r adnodd yn fyd-eang, yn rhanbarthol ac mewn ardaloedd sydd heb lawer o ddata ar faint o bysgota sy'n digwydd yno, y gwahanol gynefinoedd gwely'r môr ac amrywiaeth bywyd y môr.

Yn y pen draw, mae’r adnodd yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar sefydliadau i benderfynu ble i ganiatáu pysgota ar wely’r môr ac i leihau’r niwed amgylcheddol y gall ei achosi.

Gwella cynaliadwyedd

Mae ymchwil y tîm yn helpu'r diwydiant pysgota ar wely’r môr byd-eang i fod yn fwy cynaliadwy.

Mae’r adnodd asesu:

  • wedi'i argymell gan y Cyngor Stiwardiaeth Forol i sicrhau gwelyau môr bioamrywiol a chydnerth ar gyfer ei bysgodfeydd ardystiedig
  • wedi’i gymeradwyo gan y Cyngor Rhyngwladol dros Archwilio Moroedd i’w ddefnyddio yng Nghyfarwyddeb Fframwaith Strategaeth Forol yr Undeb Ewropeaidd i helpu i gyflawni nodau polisi allweddol
  • wedi'i ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ymgynghoriad a phenderfyniad ynghylch a ddylid caniatáu treillrwydo cregyn bylchog mewn ardal forol warchodedig.

Mae ymchwil y tîm wedi cryfhau hygrededd safonau'r Cyngor Stiwardiaeth Forol ac wedi helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus sydd o fudd i'r amgylchedd a'r diwydiant pysgota.

“Mae effaith ymchwil Bangor ar greu’r adnodd hwn yn sylweddol … er mwyn sicrhau arf hynod gredadwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer labelu mewn perthynas ag ardystio pysgodfeydd cynaliadwy a chaniatáu i’r defnyddiwr wneud dewisiadau cynaliadwy." Uwch-reolwr Safonau Pysgodfeydd, y Cyngor Stiwardiaeth Forol

Y tîm ymchwil

Yr Athro Jan Geert Hiddink, yr Athro Michel J Kaiser, Dr Marija Sciberras, Dr Gwladys Lambert, Kathryn Hughes a Dr Claire Szostek – Prifysgol Bangor

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn