Mae myfyrwyr rhyngwladol yn y DU yn cael effaith gadarnhaol iawn ar brofiad diwylliannol myfyrwyr domestig o fywyd prifysgol, maent yn cyfrannu at ymchwil sy'n newid bywydau ac yn llenwi bylchau sgiliau, tra hefyd yn cyfrannu at gymunedau lleol, er enghraifft drwy wirfoddoli. Mae myfyrwyr rhyngwladol, wrth gwrs, hefyd yn darparu buddion economaidd sylweddol, gan gyfrannu cyfanswm o £41.9 biliwn mewn budd gros i’r economi bob blwyddyn. Nod yr ymgyrch hon yw dangos hyn drwy rannu straeon bywyd go iawn myfyrwyr sydd wedi dod i'r DU i astudio.

I gefnogi’r ymgyrch hon, meddai’r Gwir Anrh. Arglwydd Johnson o Marylebone, a chyn Weinidog Gwladol dros Brifysgolion, Gwyddoniaeth, Ymchwil ac Arloesedd:

“Dim ond un rhan o’r gwerth aruthrol y mae myfyrwyr rhyngwladol yn ei gyfrannu at y wlad yw’r £41.9 biliwn mewn budd economaidd gros y mae addysg ryngwladol yn ei ddenu i’r DU. Mae llif myfyrwyr rhyngwladol yn hanfodol i gystadleurwydd y DU fel economi wybodaeth, gan hybu ein pŵer meddal ar draws y byd.

Drwy ddod â llais myfyrwyr rhyngwladol ledled y DU at ei gilydd, mae’r ymgyrch #WeAreInternational yn helpu i ddileu adroddiadau ffug a dangos sut mae ein myfyrwyr tramor o fudd mawr i’n campysau prifysgol a’n gwlad.”

Dywedodd y Gwir Anrh. Chris Skidmore AS, y Cyn Weinidog Gwladol dros Brifysgolion, Gwyddoniaeth, Ymchwil ac Arloesedd, a Chadeirydd y Comisiwn Addysg Uwch Rhyngwladol:

“Mae myfyrwyr rhyngwladol yn cyfrannu’n aruthrol i’r DU yn economaidd, yn gymdeithasol, yn academaidd ac yn ddiwylliannol. Dyma pam mae gennym ni gomisiynwyr sy’n fyfyrwyr rhyngwladol ar y Comisiwn Addysg Uwch Rhyngwladol, gan helpu i ddod â llais y myfyrwyr hynny i’r amlwg.

Bydd yr ymgyrch hon yn gyfraniad i'w groesawu ac yn ategu ein gwaith gyda'r Comisiwn; bydd hefyd yn helpu i ddangos profiadau cadarnhaol y myfyrwyr rhyngwladol eu hunain a'r cymunedau y maent yn eu gwella. Bydd hyn yn hanfodol o ran newid canfyddiadau ymhlith llunwyr polisi a thu hwnt.”

Meddai Gareth Bacon, AS Ceidwadol Orpington, a Chadeirydd Grŵp Seneddol Hollbleidiol dros Lundain fel Dinas Fyd-eang:

“Mae Llundain yn un o ddim ond dwy ddinas sydd wedi’u rhestru yn Alpha++ yn y byd ar gyfer addysg uwch. Mae'n lle gwych i astudio, dechrau gyrfa a phrofi cyfleoedd bywyd bywiog.

Rwy'n falch o ba mor groesawgar yw ein prifddinas i'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr a doniau byd-eang.

Mae 70,000 o fyfyrwyr rhyngwladol yn ymrestru bob blwyddyn, gan hyrwyddo cyfnewid diwylliannol, creu degau o filoedd o swyddi a chynhyrchu biliynau mewn Cynnyrch Domestig Gros ar gyfer Llundain.

Mae’r rhagolygon ar gyfer myfyrwyr yn ddiguro, gyda’n sefydliadau unigryw yn cyfuno syniadau academaidd gyda chymuned fusnes i’w marchnata.

Byddwch yn rhan o’r dyfodol heddiw – astudiwch yn Llundain”

Gallwch weld cynnwys yr ymgyrch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol o dan yr hashnod #WeAreInternational.

Nodiadau

  1. Mae'r ymgyrch hon yn ymdrech sector ar y cyd gan adran Ryngwladol sefydliad Prifysgolion y DU (UUKi), UKCISA, BUILA, London Higher, ac ymgyrch Study UK y Cyngor Prydeinig.
     
  2. Mae adran Ryngwladol sefydliad Prifysgolion y DU (UUKi) yn cynrychioli sefydliadau addysg uwch y DU yn fyd-eang. I wneud hyn rydym yn mynd ati i hyrwyddo sefydliadau AU y DU dramor, gan ddarparu gwybodaeth y gellir ymddiried ynddi ar eu cyfer ac amdanynt, yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd drwy ein gallu i weithredu ar lefel sector.

Rydym yn defnyddio arbenigedd prifysgolion y DU i ddylanwadu ar bolisi yn y DU a thramor, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i hwyluso cydweithredu rhwng sefydliadau AU y DU ac ystod eang o bartneriaid rhyngwladol sydd o fudd i’r naill garfan a’r llall.

  1. Mae Cymdeithas Gydlynu Rhyngwladol Prifysgolion Prydain (BUILA) yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan aelodau ledled y DU sy’n cynorthwyo â gwaith a buddiannau proffesiynol staff sy’n gweithio ym maes recriwtio a chydgysylltu rhyngwladol mewn sefydliadau addysg uwch yn y DU.

Ar hyn o bryd mae aelodaeth ein Cymdeithas yn cynnwys 144 o sefydliadau addysg uwch yn y DU, ac mae dros 2,000 o broffesiynwyr recriwtio rhyngwladol yn gweithio yn y sefydliadau hynny sy'n defnyddio fforymau trafod BUILA. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â members@buila.ac.uk

  1. Mae Cyngor y DU dros Faterion Myfyrwyr Rhyngwladol (UKCISA) yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol a'r sefydliadau, undebau myfyrwyr a mudiadau sy'n gweithio gyda nhw.
    Rydym yn darparu gwasanaethau aelodaeth gan gynnwys cyngor, hyfforddiant a chanllawiau polisi i dros 400 o aelodau, ynghyd â gwasanaethau cymorth uniongyrchol i filoedd o fyfyrwyr rhyngwladol bob blwyddyn. Mae ein haelodaeth yn cynnwys pob prifysgol yn y DU, llawer o golegau addysg bellach, ysgolion annibynnol ac undebau myfyrwyr.

     
  2. Mae London Higher yn gorff sy’n cynrychioli bron i 50 o brifysgolion a cholegau addysg uwch ar draws y brifddinas. Rydym wedi ymrwymo i hybu llais sector addysg uwch ac ymchwil Llundain, yn ogystal â sicrhau bod ein haelodau'n gwneud y profiad addysg uwch yn Llundain y gorau y gall fod i fyfyrwyr a staff o bob rhan o'r byd.
    Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag enquiry@londonhigher.ac.uk  

     
  3. Study UK, y Cyngor Prydeinig

    Mae Study UK yn ymgyrch fyd-eang sy'n hyrwyddo'r DU fel dewis cyntaf o ran cyrchfan astudio i fyfyrwyr rhyngwladol a'r rhai sy’n dylanwadu arnynt. Dyma’r unig ymgyrch ar lefel genedlaethol yn y DU sy’n arddangos arlwy addysg uwch ragorol y DU a’r cyfleoedd sy’n newid bywydau a ddaw yn ei sgil; o addysg o safon fyd-eang, i brofiad myfyriwr anhygoel a ffordd o ymuno â rhengoedd y rhai mwyaf cyflogadwy yn y byd.

    Mae ymgyrch Study UK yn arddangos amrywioldeb y DU, gan dynnu sylw at y pedair gwlad a’u nodweddion unigryw i ddangos bod y DU yn cynnig cyfleoedd diddiwedd i bawb. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â studyuk@britishcouncil.org

     
  4. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr ymgyrch, cysylltwch ag info@international.ac.uk neu weareinternational@ukcisa.org.uk.