Mae’r diwydiant bwyd a diod yn hollbwysig i economi Cymru, gan gynhyrchu £7 biliwn yn 2019 yn unig.

Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi bod yn cynnal ymchwil i’r diwydiant gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod yng Nghymru ers dechrau’r 2000au. Mae eu gwaith wedi dod â buddion iechyd ac economaidd eang i’r wlad ac wedi cyfrannu at bolisi Llywodraeth Cymru ar fwyd, iechyd, yr economi, addysg, yr amgylchedd, amaethyddiaeth a thwristiaeth.

Yn 2009, dyfarnwyd cyllid i ZERO2FIVE gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig i redeg y prosiect Cyfnewid Gwybodaeth, Arloesi a Thechnoleg (KITE). Nod y prosiect oedd helpu busnesau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod bach a chanolig eu maint (BBaCh) i ddatblygu eu sgiliau gwyddor bwyd a thechnegol a gwella eu cydymffurfiad â diogelwch bwyd.

Ei nod hefyd oedd helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu ei blaenoriaethau strategol ar gyfer diwydiant bwyd a diod y wlad.

Gweithio mewn partneriaeth gyda diwydiant

Yn ystod y prosiect KITE, bu’r tîm ymchwil yn gweithio mewn partneriaeth ag unigolion â phrofiad yn y diwydiant gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod a BBaCh bwyd a diod o Gymru, yr oedd 71% ohonynt mewn ardaloedd â diweithdra hanesyddol uchel.

Drwy rannu gwybodaeth, buont yn edrych ar sut y gallai BBaChau wneud y canlynol:

  • datblygu eu sgiliau diogelwch bwyd, gwyddoniaeth a thechnoleg
  • creu swyddi newydd a diogelu rhai presennol
  • datblygu cynhyrchion newydd ac ail-fformiwleiddio rhai presennol
  • creu ystodau mwy amrywiol ac iachach o gynnyrch
  • cynyddu gwerthiant
  • cael mwy o nwyddau a gwasanaethau lleol.

Yn benodol, edrychodd y tîm ymchwil ar sut roedd systemau rheoli yn effeithio ar ddiwylliant diogelwch bwyd cwmni.

Effaith economaidd

Arweiniodd y prosiect KITE at:

  • 290 o swyddi newydd
  • 413 o swyddi gwarchodedig
  • cynnydd o bron i £103m mewn gwerthiant
  • 642 o gynhyrchion newydd
  • marchnadoedd allforio newydd
  • 83 o achrediadau diogelwch bwyd a safonau manwerthu
  • cadwyni cyflenwi byrrach a mwy cynaliadwy
  • gweithlu mwy medrus yn dechnegol.

O ganlyniad i lwyddiant y prosiect, derbyniodd ZERO2FIVE gyllid o £11 miliwn ar gyfer Prosiect HELIX, sydd â’r nod o adeiladu ar gyflawniadau KITE a helpu diwydiant bwyd a diod Cymru i gyflawni’r canlynol:

  • gwella ansawdd, cywirdeb, diogelwch ac oes silff eu cynhyrchion
  • datblygu eu sgiliau busnes
  • cael mynediad i farchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol newydd.

Erbyn 2019 roedd Prosiect HELIX wedi cyflawni effaith economaidd o dros £110 miliwn, sef 423% o enillion gan ei bartneriaid ar fuddsoddiad trethdalwyr.

Tîm prosiect KITE

Yr Athro David Lloyd, yr Athro Adrian Peters, Dr Elizabeth Redmond, Dr Debbie Clayton, yr Athro Louise Fielding, yr Athro Chris Griffiths a Leanne Ellis o ZERO2FIVE.

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn