Yng Nghymru, mae gwaith rhyw yn draddodiadol wedi cael ei weld fel ‘niwed’ yn erbyn y gymuned. Mae gweithwyr rhyw wedi'u targedu'n bennaf fel troseddwyr cymunedol ac ychydig iawn o fynediad a gawsant at wasanaethau cymorth.

Roedd y tîm ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe eisiau herio'r syniadau hyn o waith rhyw fel rhywbeth niweidiol a siarad yn uniongyrchol â gweithwyr rhyw i ddarganfod eu gwir anghenion.

Gwell dealltwriaeth o waith rhyw

Canfu ymchwil y tîm y canlynol:

  • roedd gweithwyr stryd mewn perygl mawr o drais rhywiol a chorfforol gan gleientiaid ac aelodau o’r gymuned, ond nid yw’r rhan fwyaf yn adrodd amdano
  • roedd gweithwyr rhyw yn teimlo’n fwy diogel wrth ymgysylltu â gwasanaethau allgymorth a hoffent gael gwell mynediad at wasanaethau iechyd rhywiol, triniaeth cyffuriau, cwnsela, tai ac iechyd meddwl 
  • dim ond mewn chwech allan o 891 o wardiau etholiadol Cymru roedd gwaith rhyw yn fater cymunedol ac, i'r rhan fwyaf o bobl, nid oedd yn niwsans

Roedd eu canfyddiadau yn gwrth-ddweud safbwyntiau cyffredin bod gwaith rhyw yn niweidio cymunedau. Yn lle hynny, nodwyd gweithwyr rhyw yn bennaf fel menywod agored i niwed sy’n profi trais corfforol a rhywiol, ymosodiadau geiriol, barn a stigma, ac sy’n cael trafferth cael mynediad at wasanaethau cymorth.

Argymhellodd y tîm ymchwil well dealltwriaeth o waith rhyw trwy addysg a hyfforddiant, gweithio amlasiantaeth sy’n seiliedig ar anghenion hunan-adnabyddedig gweithwyr rhyw, a newid yn y modd y mae'r heddlu yn ymateb i weithwyr rhyw. Roeddent hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymgorffori lleihau niwed i weithwyr rhyw yn ei fframwaith polisi ehangach.

Newidiadau i bolisi ac ymarfer

Cafodd ymchwil y tîm effaith uniongyrchol ar bolisi ac ymarfer yng Nghymru, gan arwain at sefydlu'r Grŵp Diogelwch Gwaith Rhyw Strategol – grŵp cenedlaethol o lunwyr polisi, yr heddlu, academyddion a gweithwyr proffesiynol rheng flaen sy'n sicrhau bod materion sy'n ymwneud â gwaith rhyw, megis trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, caethwasiaeth fodern, camddefnyddio sylweddau, iechyd rhywiol a thai, yn cael eu cynnwys ym mhob un o strategaethau perthnasol Llywodraeth Cymru.

Mae hefyd wedi ysbrydoli dull newydd o blismona gwaith rhyw a chaethwasiaeth fodern sy’n canolbwyntio ar leihau niwed yn hytrach na gorfodi’r gyfraith ac sy’n llywio gweithwyr rhyw i ffwrdd o’r system cyfiawnder troseddol.

Mae'r tîm wedi datblygu hyfforddiant gyda phartneriaid allanol, gwasanaethau rheng flaen a gweithwyr rhyw sy'n codi ymwybyddiaeth o anghenion gweithwyr rhyw, eu cymhellion ac effaith stigma, ac sy’n annog arferion lleihau niwed.

Yn ogystal â’r uchod, mae dau dîm newydd wedi’u sefydlu yng Nghaerdydd sy’n darparu asesiadau risg amlasiantaeth ac ymatebion cydgysylltiedig ar gyfer gweithwyr rhyw y bernir eu bod yn wynebu risg uchel o niwed. Mae sefydliadau hefyd wedi newid sut maent yn gweithio gyda gweithwyr rhyw, gyda rhai bellach hefyd yn cynnwys gweithwyr rhyw oddi ar y stryd yn ogystal â gweithwyr rhyw stryd yn eu gwaith.

Un o nodau cyffredinol yr ymchwil oedd gweithio gyda gweithwyr rhyw i sicrhau bod ganddynt lais wrth ddod o hyd i ffyrdd o leihau stigma a gwella eu diogelwch a'u llesiant. Hyd yma, mae prosiectau Sagar a Jones wedi gweithio gyda dros 100 o weithwyr rhyw yng Nghymru, gan gynnwys drwy ddigwyddiadau ymgysylltu cynhwysol a chyfleoedd ymchwil gan gymheiriaid.

Y tîm ymchwil

Yr Athro Tracey Sugar a’r Athro Deborah Jones – Prifysgol Abertawe

Partneriaid ymchwil

Gibran UK ac Ymddiriedolaeth Terrence Higgins

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn