Yn 2006, dim ond 17% o boblogaeth y byd a oedd â mynediad i’r rhyngrwyd. Heddiw, mae’r ffigur hwnnw’n uwch na 50%. Fodd bynnag, caiff technolegau eu creu fel arfer ar gyfer pobl yn y byd datblygedig, a gwneir rhai rhagdybiaethau am sut mae pobl yn byw, safon eu haddysg, eu hadnoddau technolegol a’u profiad.

Gall y rhagdybiaethau hyn eithrio pobl yn y byd datblygol, lle y mae anghenion, adnoddau, addysg a mynediad at dechnoleg yn aml yn wahanol iawn. 

Arloesedd a ysgogir gan gymuned

Bu ymchwil blaenorol gan y tîm yn edrych ar sut y gellid ehangu mynediad i dechnoleg ddigidol ar gyfer pobl yn y byd datblygol. Bu’r ymchwil hwn yn adeiladu ar waith cynharach y tîm, gan edrych ar sut y gellid cynnwys pobl o’r byd datblygol wrth greu technolegau newydd a fyddai’n diwallu eu hanghenion.

Datblygodd y tîm fethodoleg newydd o’r enw dyluniad ‘itineraidd’, sef dull arloesi a ysgogir gan y gymuned. Cynhaliodd y tîm weithdai mewn cymunedau yn Kenya ac India, gan ddefnyddio’r fethodoleg i nodi’r heriau a oedd yn wynebu pobl wrth ddefnyddio technoleg, a dylunio ffyrdd i’w goresgyn.

Yn dilyn y gweithdai, creodd y tîm ymchwil achosion defnydd a gyflwynwyd i arbenigwyr technoleg lleol, cyrff anllywodraethol, sylwebwyr diwylliannol a rhanddeiliaid eraill. Yna buont yn gweithio gyda phartneriaid prosiect i ddatblygu prototeipiau er mwyn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd a nodwyd yn ystod y gweithdai cychwynnol.

Bu’r tîm yn treialu a datblygu’r prototeipiau gyda chymunedau lleol. Ar ddiwedd y broses, buont yn archwilio sut y gallai’r technolegau newydd a grëwyd fod o fudd i bobl yn y byd datblygedig.

Datblygu technolegau newydd

Dangosodd gwaith ymchwil y tîm sut y gall gweithio gyda phobl yn y byd datblygol ddarparu mewnwelediadau sy’n berthnasol yn fyd-eang er mwyn helpu i ddatblygu technolegau newydd.

Er enghraifft, arweiniodd eu gwaith gyda gweithwyr domestig benywaidd, gyrwyr ricsio a phlant ysgol yn Bangalore at greu APPropriate, cymhwysiad sy’n caniatáu i bobl ddefnyddio dyfeisiau pobl eraill. Mae hyn yn sicrhau bod pobl yn fwy diogel gan nad oes angen iddynt gario ffôn yn gyhoeddus. Mae hefyd yn cynyddu gwytnwch. Fel y dywedodd defnyddiwr yn Ne Affrica,“Doedd dim trydan i’w gael am wythnos yn ystod y storm felly doeddwn i ddim yn gallu gwefru fy ffôn – ond roeddwn i dal yn gallu benthyg ffôn a oedd wedi’i wefru.”

Arweiniodd gweithdai a gynhaliodd y tîm gyda thrigolion treflannau yn Cape Town at ddatblygu’r platfform Better Together, sy’n caniatáu i bobl ddefnyddio sawl dyfais symudol ar y cyd, gan gyfuno eu galluoedd a’u rhyngweithiadau. Mae’r adnodd wedi’i lawrlwytho dros 1.5 miliwn o weithiau yn India, lle mae ganddo gyfartaledd o 179,000 o ddefnyddwyr gweithredol bob dydd.

Arweiniodd gweithdai’r tîm hefyd at ddatblygu seinyddion clyfar mewn mannau cyhoeddus, sydd wedi bod yn cael eu defnyddio mewn slym yn India a threflan yn Ne Affrica. Dywedodd gohebydd newyddion o ABP News yn India, “Mae’r seinyddion clyfar hyn yn gallu ateb pob cwestiwn.”

Yn ystod y prosiect, rhoddodd y tîm ymchwil hyfforddiant i gannoedd o aelodau cymunedol yn Affrica Is-Sahara, India a De America, a darparwyd gwasanaethau digidol newydd, megis cynorthwywyr lleferydd rhyngweithiol ac offer golygu cynnwys, i dros 200,000 o bobl ar draws y byd.

Y tîm ymchwil

Simon Robinson, Jennifer Pearson a’r Athro Matt Jones – Prifysgol Abertawe

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn