Geiriadur Prifysgol Cymru yw unig eiriadur hanesyddol safonol y Gymraeg. Dyma’r awdurdod cydnabyddedig ar sillafu, ystyr a tharddiad geiriau Cymraeg ac mae’n rhan hanfodol o’r seilwaith ieithyddol y seilir geiriaduron, thesawrysau, rhestrau terminoleg a chyfeirlyfrau eraill arno. Fe’i defnyddir yn eang i ysgrifennu dogfennau dwyieithog, yn enwedig ym meysydd llywodraethu, addysg, y gyfraith, iechyd a busnes.

Dechreuodd y prosiect ym 1921, a chyhoeddwyd rhan gyntaf y geiriadur ym 1950. Lansiwyd y gwaith gorffenedig gan Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2002. Cyhoeddwyd Geiriadur Prifysgol Cymru ar lein yn 2014, a thrwy apiau ar gyfer ffonau symudol yn 2016, a gynyddodd ei ddefnydd yn sylweddol.

Adolygu a diweddaru Geiriadur Prifysgol Cymru

Ers cyhoeddi’r rhifyn cyntaf, mae Geiriadur Prifysgol Cymru wedi cael ei adolygu a’i ddiweddaru’n helaeth.

Mae tîm y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ymchwilio i gofnodion newydd ar gyfer Geiriadur Prifysgol Cymru ac yn diweddaru’r rhai presennol. Mae 30 y cant o’r geiriadur presennol wedi’i gyhoeddi ar ôl Ionawr 2000.

Ar gyfer pob cofnod newydd neu gofnod wedi’i ddiweddaru, mae’r tîm yn casglu ac yn dadansoddi tystiolaeth ac yn ysgrifennu crynodeb o’u canfyddiadau, wedi’i ategu gan ddyfyniadau enghreifftiol. Mae pob cofnod yn ymdrin ag ystyr y gair, ei darddiad, ei ddefnydd cywir, ffurfiau deilliadol (lluosog, unigolyddol, bachigol, ac ati), ffurfiau amrywiol ac ymadroddion sy’n cynnwys y gair.

Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg

Mae Llywodraeth Cymru, trwy ei strategaeth Cymraeg 2050, yn anelu at ddyblu, bron, nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

Mae Geiriadur Prifysgol Cymru wedi gwneud cyfraniad sylweddol at y gwaith o wireddu’r nod hwn, gan helpu i gynyddu amlygrwydd y Gymraeg a chynhyrchu adnoddau ar gyfer dysgwyr Cymraeg a siaradwyr rhugl.

Yn benodol, mae datblygiad a defnydd y tîm o dechnoleg ddigidol – megis yr ap ar gyfer ffonau symudol – yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o wella hygyrchedd a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. Credir mai Geiriadur Prifysgol Cymru yw’r unig eiriadur hanesyddol llawn sydd ar gael ar ffurf ap ar gyfer unrhyw iaith.

Ar wahân i’w ddefnydd helaeth yn y byd academaidd, mae Geiriadur Prifysgol Cymru hefyd yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd gan gyfieithwyr masnachol sy’n gweithio i Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, ac mae ymysg yr adnoddau ieithyddol sylfaenol a ddefnyddir wrth ddrafftio deddfwriaeth yn y Gymraeg.

Y tîm ymchwil

Arweinir tîm ymchwil y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gan Andrew Hawke.

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn