Mae heddiw yn nodi blwyddyn o'r fenter gefeillio sydd wedi mynd o nerth i nerth, gyda mwy na 100 o bartneriaethau gefeillio rhwng prifysgolion yn y DU a’r Wcráin – gan gynnwys saith yma yng Nghymru. Mae'r rhaglen nodedig hon wedi galluogi campysau yn yr Wcráin i aros ar agor, academyddion i ddal ati â gweithgareddau addysgu ac ymchwil hanfodol ac yn bwysicaf oll, mae myfyrwyr wedi cael cyfle i barhau â'u hastudiaethau.

Sefydlodd Cormack Consultancy Group, mewn partneriaeth ag adran Ryngwladol Prifysgolion y DU (UUKi) y trefniant gefeillio’n fuan ar ôl i Rwsia oresgyn yr Wcráin, yn y gobaith o leihau nifer yr academyddion fyddai’n ffoi o’r wlad, ac i gynnig cefnogaeth bellach i brifysgolion yn yr Wcráin i ddod allan o'r argyfwng gyda mwy o adnoddau a sgiliau. Rhoddwyd cydnabyddiaeth i effaith gadarnhaol y cynllun gan y llywodraeth ar ffurf buddsoddiad UKRI o £5m, a wnaed tua diwedd 2022 i gynorthwyo â’r gwaith hwn.

Yng Nghymru, addawodd rhaglen Cymru Fyd-eang gyllid o hyd at £15,000 i bob prifysgol i hwyluso’r partneriaethau ymhellach, a’r wythnos diwethaf cyhoeddwyd rownd arall o gyllido, drwy CCAUC, o hyd at £20,000 ar gyfer pob prosiect i gefnogi partneriaethau Cymru-Wcráin.

Meddai Jamie Arrowsmith, Cyfarwyddwr adran Ryngwladol Prifysgolion y DU:

“Mae heddiw’n achlysur arbennig wrth i ni fyfyrio ar gyflawniadau anhygoel y partneriaethau gefeillio dros y flwyddyn ddiwethaf, a’u dathlu. Mae'n anhygoel gweld y cysylltiadau y mae sefydliadau'r DU a'r Wcráin wedi'u ffurfio â'i gilydd drwy'r cynllun. Mae’r perthnasoedd hanfodol hyn wedi helpu i gryfhau’r cysylltiadau rhwng ein dwy system ac yn amlygu cefnogaeth barhaus y DU i’r Wcráin drwy’r gwrthdaro presennol.”

Ychwanegodd: “Gyda diolch i gyllido gan Research England, rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd 33 o bartneriaethau yn derbyn grantiau i ddatblygu gweithgareddau ymchwil ac arloesi, a fydd yn cryfhau cwmpas ac effaith y cynllun gefeillio ymhellach.”

Flwyddyn ar ôl sefydlu’r fenter gefeillio, cyhoeddwyd heddiw bod 31 o brifysgolion yn y DU wedi derbyn cyllido drwy gynllun grantiau gefeillio Ymchwil ac Arloesedd y DU-Wcráin – a ddarperir gan Research England UKRI – er mwyn galluogi partneriaid i hybu eu cydweithrediadau ymchwil ac arloesi.

Meddai’r Athro Cara Aitchison, Cadeirydd Grŵp Sector Cymru ar yr Wcráin:

“Fel Gwlad Noddfa, mae Cymru’n cynnig croeso a chefnogaeth i ffoaduriaid o bob rhan o’r byd.  Mae’r cynllun Gefeillio â’r Wcráin yn cyd-fynd yn berffaith â'r ethos hwn, gan alluogi prifysgolion i ddarparu cymorth ac adnoddau pan a ble mae eu hangen fwyaf.

“Flwyddyn ar ôl i’r gwrthdaro ddechrau, rwy’n falch o weld prifysgolion Cymru’n parhau i sefyll yn gadarn gyda phrifysgolion yr Wcráin wrth iddynt ddatblygu partneriaethau hirdymor, cynaliadwy sydd o fudd i’r naill sefydliad a’r llall.

“Mae cymryd rhan yn y cynllun hynod bwysig hwn yn darparu adnoddau a chefnogaeth hanfodol i sefydliadau, staff a myfyrwyr yn yr Wcráin, gan eu galluogi i barhau â’u gwaith o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol, a chynorthwyo i ailadeiladu eu diwylliant a’u hyder yn y tymor hwy.

“Mae’r partneriaethau hyn yn dyst i’r cymunedau byd-eang yr ydym yn byw ynddynt a’n gwerthoedd ar y cyd o ran ceisio gwybodaeth a syniadau, a’r rôl y mae addysg uwch yn ei chwarae ar draws cymdeithas.

DIWEDD

Nodiadau

  • Mae Cymru Fyd-eang yn darparu ymagwedd strategol, gydweithredol at addysg uwch ryngwladol ac addysg bellach yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn bartneriaeth rhwng Prifysgolion Cymru, ColegauCymru, Llywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. https://www.uniswales.ac.uk/our-work/global-wales 
  • Mae’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yng Nghymru o dan y cynllun gefeillio yn cynnwys:
    • Rhaglenni symudedd i fyfyrwyr a staff
    • Mynediad am ddim i lyfrgelloedd ar-lein, adnoddau dysgu, a chyrsiau achrededig ar-lein
    • Ysgoloriaethau
    • Cyflenwi offer ac adnoddau
    • Digwyddiadau ar-lein – darlithoedd cychwynnol
    • Cydweithrediad mewn ymchwil
    • Profion iaith Saesneg
    • Cefnogaeth gymunedol i ffoaduriaid o’r Wcráin
  • Bydd adran Ryngwladol Sefydliad Prifysgolion y DU yn cynnal derbyniad seneddol ar noson 29ain Mawrth 2023, i nodi blwyddyn o efeillio. Bydd y siaradwyr yn cynnwys Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Johnson o Marylebone a Jamie Arrowsmith, Cyfarwyddwr UUKi; bydd hefyd cyfle i glywed yn uniongyrchol gan fyfyrwyr a staff o’r Wcráin.
  • Mae Cormack Consultancy Group (CCG) wedi bod yn gweithio gyda phrifysgolion ar ddatblygu eu strategaeth a’u gweithgaredd rhyngwladol ers dros 22 mlynedd. Sefydlwyd CCG yn 1999 gan ennill ei blwyf yn gyflym yn y Deyrnas Unedig fel un o'r prif gwmnïau ymgynghori sy'n cynorthwyo prifysgolion y DU sydd am ddatblygu addysg drawswladol.