Ym Mhrydain ganoloesol, roedd pobl ar bob lefel o gymdeithas yn berchen ar seliau ac yn eu defnyddio. Argraffwyd y seliau hyn mewn cwyr yn bennaf er mwyn gwirio dogfennau cyfreithiol. Mae nifer fawr ohonynt wedi goroesi mewn archifau ledled y DU.

Er bod haneswyr wedi dysgu llawer gan y delweddau a'r testun ar seliau, roedd yr olion bysedd ac olion y gledr a geir yn aml ar gefn y cwyr wedi cael eu hesgeuluso yn flaenorol fel ffynhonnell wybodaeth.

Technegau fforensig modern

Gan gyfuno sgiliau fforensig arbenigol ag ymchwil hanesyddol, ariannodd Dr Elizabeth New o Brifysgol Aberystwyth, Ymchwilydd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau brosiect Olion, gan gynnal astudiaeth o olion bysedd ac olion dwylo i ddarganfod yr hyn y gallant ei ddweud wrthym am ddatblygiad arferion gweinyddol a chyfreithiol, y bobl sy'n ymwneud â'r weithred o selio, a bywyd beunyddiol cymunedau canoloesol.

Defnyddiodd y tîm Olion offer fforensig modern i greu delweddau o'r printiau cwyr, gan eu cyfuno â ffotograffau o'r seliau a’r dogfennau i greu cronfa ddata fawr.

Mae’r canlyniadau ar gael am ddim ar wefan y prosiect, www.imprint.org. Maent yn darparu gwybodaeth am y canlynol:

  • cynnwys y dogfennau
  • pobl oedd yn rhan o’r prosiect
  • geiriau a motiffau ar y seliau
  • natur, ansawdd, a chydweddiadau ar gyfer y printiau

Deall cymdeithas ganoloesol

Mae ymchwil Dr New wedi arwain at well dealltwriaeth o gymdeithas ganoloesol, wedi hybu cadwraeth treftadaeth ac wedi cyfrannu at ddatblygiadau blaengar ym maes gwyddoniaeth fforensig a dadansoddi olion bysedd.

Arweiniodd y prosiect at well dealltwriaeth o’r arfer o selio a’i gysylltiadau â hunaniaeth bersonol gan gynnwys:

  • roedd y seliau yn eiddo i ystod amrywiol iawn o bobl o bob rhan o gymdeithas
  • roedd merched, gan gynnwys merched priod, yn ymwneud â dilysu dogfennau
  • weithiau roedd trydydd parti yn dal y cwyr er mwyn i rywun arall wneud y print, gan awgrymu bod y weithred o selio er mwyn dilysu dogfen yn cael ei gwahanu oddi wrth y weithred o gyfnewid

Cafodd Olion effaith sylweddol ar arferion treftadaeth proffesiynol.

  • O ganlyniad i ganfyddiadau’r prosiect, newidiodd archifwyr y ffordd y maent yn ystyried seliau canoloesol, a’u hymagwedd at warchod dogfennau wedi’u selio a chatalogio seliau.

Mae ymchwil Dr New hefyd yn datgelu gwybodaeth newydd am gyfansoddiad a tharddiad cwyr canoloesol.

Defnyddiodd Olion Crime-lite Imager™ i greu delweddau o'r olion dwylo. Crëwyd Crime-lite Imager™ ar gyfer dadansoddi lleoliadau trosedd, ac yn sgil ei ddefnyddio ar y prosiect hwn, bu modd i’r gwneuthurwr (Foster & Freeman Ltd) wella’r offer a’r feddalwedd, a datgelu gwybodaeth newydd am sut mae olion bysedd yn goroesi ar gwyr a’r ffyrdd y gellir eu dadansoddi ar gyfer ymchwiliadau fforensig.

Y tîm ymchwil

Dr Elizabeth New – Prifysgol Aberystwyth

Yr Athro Philippa Hoskin - Prifysgol Lincoln

Partneriaid ymchwil

Dr Karen Stow a Luke McGarr o Forensic Focus Ltd; Sefydliad Ymchwil y Dyniaethau Prifysgol Sheffield; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Archifau Cadeirlan Henffordd; Llyfrgell ac Archifau Cadeirlan Caerwysg; Abaty San Steffan ac Archifau Cadeirlan Lincoln

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn