Yn ymuno â'r ddirprwyaeth roedd cynrychiolwyr o addysg uwch ac addysg bellach Cymru, gan gynnwys yr is-gangellorion canlynol: yr Athro Elizabeth Treasure (Prifysgol Aberystwyth), yr Athro Paul Boyle (Prifysgol Abertawe), Dr. Ben Calvert (Prifysgol De Cymru), a'r Athro Colin Riordan (Prifysgol Caerdydd), Dr. Andrew Cornish o Golegau Cymru, a Susana Galvan o Taith. Roedd y ddirprwyaeth yn cyd-daro ag ymweliad â Brwsel gan Weinidog dros Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles ASC. 

Roedd yr ymweliad â Brwsel yn cynnwys trafodaethau â phartneriaid Ewropeaidd ar bynciau’n cynnwys rhyngwladoli mewn addysg bellach, symudedd myfyrwyr rhwng yr UE a Chymru gyda Sabine Verheyen ASE, a meysydd o ddiddordeb a rennir o fewn addysg uwch gydag Amanda Crowfoot, Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Prifysgolion Ewrop.

The delegation standing in a chamber within the European Parliament.

Dilynwyd hyn gan dderbyniad ar gyfer cyn-fyfyrwyr a gynhaliwyd gan Brifysgolion Cymru gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles ASC, y cyn ASE, Derek Vaughan, a chyfarwyddwr gweithredol Taith, Susana Galvan yn bresennol. Roedd y derbyniad yn dangos ymrwymiad addysg uwch Cymru i Ewrop ar ffurf cyn-fyfyrwyr yn gweithio ar draws sefydliadau Ewropeaidd.

Roedd ail ddiwrnod, a diwrnod olaf, yr ymweliad yn cynnwys cyfarfodydd pellach gyda phartneriaid Ewropeaidd ar faterion megis cyfleoedd ymchwil, symudedd rhyngwladol mewn addysg uwch, y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd ac agenda sgiliau’r UE, yn ogystal â safbwyntiau Llywodraeth y DU ar Ymchwil ac Arloesi Ewropeaidd.

Ymwelodd y cynrychiolwyr â Senedd Ewrop ar gyfer digwyddiad amser cinio gyda Jeremy Miles a Hannes Heide ASE i drafod symudedd rhwng Cymru ac Ewrop ymhellach, a sut y gall Taith gefnogi hyn, cyn dod â'r ymweliad i ben.

Wrth fyfyrio ar yr ymweliad, meddai Dr Ben Calvert, Cadeirydd Cymru Fyd-eang “Mae hwn wedi bod yn ymweliad hynod graff a chynhyrchiol; mae’n bleser cael gweithio gyda chydweithwyr o bob rhan o Gymru i gwrdd â'n partneriaid Ewropeaidd ac ailddatgan ein hymrwymiad i berthynas gadarnhaol a hirhoedlog gyda sefydliadau Ewropeaidd, sy’n mynd i fod o fudd i’n myfyrwyr, staff, colegau, a phrifysgolion.”

Hoffem ddiolch i dîm Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel am drefnu rhaglen gymhleth a chynhyrchiol iawn, ac i Taith a CholegauCymru am ymuno â ni i gefnogi cyfarfodydd Cymru Fyd-eang.