Yn Ebrill 2023, trefnodd Cymru Fyd-eang, mewn partneriaeth agos â CholegauCymru, ddirprwyaeth i Montreal, Canada. Daeth y fenter â phenaethiaid saith o golegau addysg bellach o bob rhan o Gymru ynghyd, gan nodi cam arwyddocaol tuag at feithrin cydweithrediad addysgol byd-eang ar gyfer addysg bellach yng Nghymru.

Prif ffocws y ddirprwyaeth oedd cymryd rhan mewn cynhadledd ryngwladol, a gynhaliwyd ar y cyd gan Ffederasiwn Colegau a Pholytechnig y Byd (WFCP) a Cholegau ac Athrofeydd Canada (CICan). Daeth y digwyddiad hwn â dros 1,300 o arweinwyr ac ymarferwyr ôl-uwchradd o bob rhan o’r byd at ei gilydd. Amcan drosfwaol y gynhadledd oedd eirioli, gwella capasiti, a rhannu gwybodaeth i fynd i'r afael ag anawsterau ac archwilio datrysiadau o fewn y sector addysg a hyfforddiant proffesiynol, technegol a galwedigaethol ôl-uwchradd, yng Nghanada a ledled y byd.

Yn ystod y daith hon, trefnodd Cymru Fyd-eang dderbyniad gyda'r nos i gyd-fynd â'r gynhadledd. Roedd y derbyniad yn gyfle i ddathlu’r bartneriaeth a’r nifer cynyddol o drefniadau cydweithredol rhwng sefydliadau yng Nghymru a Chanada. Roedd yr achlysur hefyd yn gyfle i lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng CICan, ColegauCymru, a Phrifysgolion Cymru.

Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn ymrwymo i ddatblygu cysylltiadau sefydliadol a chydweithio mewn addysg bellach ac uwch. Mae’r meysydd ffocws allweddol yn cynnwys:

  • Symudedd byr-dymor myfyrwyr a chyfadrannau
  • Ymchwil cymhwysol a datblygu'r cwricwlwm yn ymwneud â chaffael sgiliau a chyflogadwyedd
  • Partneriaethau sefydliadol a chytundebau trosglwyddo,
  • Teithiau ymgyfarwyddo a gweithgareddau cysylltiedig.

Fel gweithgaredd cysylltiedig a drefnwyd gan CICan a WFCP, cafodd y penaethiaid gyfle i ymweld â choleg lleol neu 'Cégep' ym Montreal - Cégep Marie Victorin. Cynigiodd y coleg Ffrangeg ei iaith hwn, gyda thros 5,000 o ddysgwyr cofrestredig, gipolwg ymarferol, lleol i'r ddirprwyaeth o sut mae addysg ôl-16 yn cael ei darparu a'i rheoli yn Quebec. Roedd yn gyfle unigryw i gymryd rhan mewn trafodaethau am heriau a dyheadau a rennir, gan gadarnhau ymhellach fanteision cydweithio rhyngwladol.

Drwy’r ddirprwyaeth hon, parhaodd Cymru Fyd-eang i gyflawni ei hamcan o feithrin partneriaethau addysgol newydd er budd Cymru, ei sefydliadau a’u dysgwyr. Wrth i benaethiaid colegau addysg bellach o Gymru a Chanada rannu eu profiadau, eu heriau a’u dyheadau ar gyfer eu sefydliadau a’u dysgwyr, gosodwyd y sylfeini ar gyfer deialog yn y dyfodol ar gyfleoedd ar gyfer arloesi, cyfnewid gwybodaeth, a thwf. Mae'r ddirprwyaeth hon a'r sgyrsiau a gafwyd yn ystod y daith wedi ffurfio sail a bydd yn parhau i ddylanwadu ar ddatblygiad cynllun gweithredu i sefydliadau addysg bellach ymgysylltu â phartneriaid yng Nghanada.