Gan adeiladu ar ymchwil blaenorol a oedd yn archwilio sut mae mynegiant creadigol pobl yn newid cyn, yn ystod ac ar ôl triniaeth ar gyfer iselder, aeth ymchwilwyr ym Mhrifysgol Wrecsam ati i ddysgu mwy am sut y gall y celfyddydau helpu i wella iechyd a llesiant pobl.

Yn benodol, edrychodd y tîm ymchwil ar y prosesau, y gweithgareddau a'r cydberthnasau sy'n sail i arferion celfyddydol ac iechyd effeithiol. 

Trwy'r prosiect Potential of Painting, buont yn archwilio sut y gall peintio helpu pobl sy'n byw gyda dementia i gyfathrebu a mynegi eu hunain. Cyfrannodd y gwaith hwn at brosiect Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Ffynnon Greadigol a rhaglen 'Ymgolli Mewn Celf' Celfyddydau Sir Ddinbych ar gyfer pobl â dementia.

Helpodd prosiect arall, Creu a Thyfu, 210 o ddisgyblion ysgol gynradd i ddysgu technegau ymwybyddiaeth ofalgar, a ddefnyddiwyd ganddynt maes o law mewn prosiectau celfyddydau creadigol.

Ymchwiliodd y tîm hefyd i anghenion hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ymarferwyr y celfyddydau mewn iechyd, yn ogystal â chefnogi Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru i drefnu digwyddiadau hyfforddi ar gyfer artistiaid, a chreu’r Pecyn Cymorth Artistiaid a Phartneriaid.

Mae’r ymchwilydd arweiniol, Dr Susan Liggett, hefyd yn aelod o bwyllgor llywio Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru, sy’n ceisio uno'r celfyddydau ym maes iechyd a chreu cysylltiadau rhwng sectorau'r celfyddydau ac iechyd a grŵp gweithredu Concordat Celfyddydau ac Iechyd Gogledd Cymru.

Mae ymchwil y tîm wedi llwyddo i wneud y canlynol:

Dylanwadu ar bolisïau a chanllawiau iechyd a gofal cymdeithasol:

  • Defnyddiodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ymchwil y tîm i lywio ei strategaeth Ffynnon Greadigol
  • Helpodd gwaith y tîm i ddatblygu Concordat Celfyddydau ac Iechyd Gogledd Cymru a gweithredu ei addewidion
  • Roedd gwaith y tîm yn cefnogi ymrwymiad Cyngor Celfyddydau Cymru i sefydlu mentrau celfyddydol ac iechyd ar draws y GIG yng Nghymru. 

Newid arferion hyfforddiant, datblygiad a gwaith ar gyfer ymarferwyr y celfyddydau ac iechyd: 

  • Helpodd gwaith y tîm i ddatblygu rhwydwaith celfyddydau ac iechyd yng Ngogledd Cymru, yn ogystal â helpu i nodi anghenion hyfforddi artistiaid sy'n gweithio mewn lleoliadau iechyd ar draws Gogledd Cymru.
  • Defnyddir y Pecyn Cymorth Artistiaid a Phartneriaid gan artistiaid sy'n gweithio ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i'w helpu i ddatblygu eu harferion
  • Mae eu gwaith wedi helpu i wella dealltwriaeth o alar

Wedi cael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant pobl:

  • Helpodd ymchwil y tîm i addasu’r cymorth sydd ar gael i bobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd corfforol a meddyliol, a nodwyd manteision iechyd a llesiant uniongyrchol.
  • Datblygodd y prosiect Potential of Painting ffyrdd newydd o gyfathrebu â phobl sy'n byw gyda dementia, gan helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o'r cyflwr.
  • Dywedodd y rhai a fu'n cymryd rhan ym mhrosiect Ymgolli Mewn Celf eu bod wedi gweld buddion iechyd amlwg, gan gynnwys mwy o hyder, gwell hwyliau a gwell sgiliau cyfathrebu.

Y tîm ymchwil

Dr Susan Liggett, Dr Karen Heald a Dr Megan Wyatt – Prifysgol Wrecsam

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn