Mae mwy na 5 miliwn o weithwyr ledled y DU ar gyflog isel, ac mae cyfraddau tlodi mewn gwaith yn cynyddu.

Mae’r Ymgyrch dros Gyflog Byw, a lansiwyd gan Citizens UK yn 2001, yn cyflwyno safon cyflog byw wirfoddol ar sail costau byw yn y DU, y gall cyflogwyr ei mabwysiadu. Y bwriad yw sicrhau safon byw foddhaol i weithwyr ar gyflog isel.

Mae ymchwil gan yr Athro Heery a’i gydweithwyr Dr Deborah Hann a Dr David Nash wedi llywio strategaethau ac ymgyrchoedd Living Wage Foundation, a gafodd ei ffurfio i hyrwyddo’r safon ac achredu cyflogwyr. Mae eu gwaith hefyd wedi rhoi gwybodaeth i lawer o sefydliadau eraill ledled y DU.

Drwy gynnig tystiolaeth glir o fanteision talu cyflog byw, mae’r ymchwil wedi helpu i gynyddu nifer y cyflogwyr sy’n gwneud hynny.

Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Caerdydd