Cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth ganllaw ar gyfer gofid a phryder sydd ar gael yn Gymraeg. Ysgrifennwyd y canllaw ymarferol ar-lein ar fyw gyda gofid a phryder yn ystod y pandemig Covid-19 gan staff yn adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ac fe’i rhyddhawyd i gyd-fynd ag Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.  

Cyhoeddodd yr arbenigwyr ar bryder ac iselder Fay Short o Brifysgol Bangor ac Ann John o Brifysgol Abertawe erthygl oedd yn rhannu awgrymiadau ar gyfer iechyd meddwl. Hefyd cynhyrchodd myfyrwyr MSc Cwnsela ym Mhrifysgol Bangor fideo YouTube gyda hintiau handi ar gyfer iechyd meddwl da.

Nododd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yr ymgyrch 'Mae Caredigrwydd yn Bwysig' gyda staff a myfyrwyr yn rhannu straeon am frwydro yn erbyn cancr a'r caredigrwydd a ddangoswyd iddynt, a sut y gall gofalgarwch helpu i gynnal yr ysbryd a chreadigrwydd. Rhannodd cyn chwaraewr Rygbi Rhyngwladol Cymru a Llysgennad Met Caerdydd, Richard Parks, ei brofiadau personol o’r cyfnod clo, gan ei gymharu â'i daith ddiweddar i’r Antarctig.

Aeth y Brifysgol ati hefyd i gynnal 'prawf curiad calon' gyda staff, gan ofyn sut roedden nhw'n teimlo yn y cyfnod digynsail hwn, yn ogystal â darparu dolenni i adnoddau a allai eu helpu yn eu hamgylchiadau penodol eu hunain.

Llun o ddynes â gwallt hir yn defnyddio ffôn symudol

Mae Prifysgol Caerdydd wedi mynd ati i dynnu sylw at Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl trwy rannu gwybodaeth am y cymorth a’r digwyddiadau sydd ar gael i'w staff a'u myfyrwyr. Gyda'r thema 'byddwch yn garedig â chi'ch hun', mae'r brifysgol wedi annog pobl i fod yn garedig â nhw eu hunain ac eraill trwy gynnig syniadau defnyddiol fel anfon neges destun ysgogol at ffrind sy'n mynd trwy gyfod anodd, neu gysylltu â rhywun nad ydych chi wedi'i weld ers tro i drefnu sgwrs dros y ffôn. Aeth y brifysgol hefyd ati i ryddhau gweithdai llesiant ar-lein ar reoli pryder, adeiladu gwydnwch emosiynol a rhagarweiniad i ofalgarwch.

Cynhyrchodd y Brifysgol Agored yng Nghymru ystod o fideos byr i gynorthwyo llesiant staff gan gynnwys, ymhlith eraill, lleddfu straen, gofalgarwch, a chadw’n iach yn ystod y cyfnod heriol hwn. Roedd staff hefyd yn gallu cyrchu rhaglen gymorth i weithwyr, sy'n darparu cyngor 24/7 ar ystod eang o bynciau a mynediad at sesiynau cwnsela.

Nododd Prifysgol Abertawe Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl gyda mis llesiant - ymgyrch ymwybyddiaeth ar-lein hwyliog, atyniadol a rhyngweithiol oedd â’r nod o atgoffa staff am bwysigrwydd cynnal iechyd a llesiant da yn ystod y cyfnod clo. Roedd Digwyddiad Llesiant Canmlwyddiant Prifysgol Abertawe yn amrywio o sesiynau myfyrio byw ac wedi’u recordio bob dydd i sgyrsiau di-flewyn-ar-dafod gydag arbenigwyr; o hyrwyddwr Amser i Newid Cymru yn rhannu sesiwn ingol ynglŷn â sut y gwnaeth profedigaeth a cham-drin domestig newid ei bywyd, i chwaraewyr rygbi yn egluro beth sy'n achosi straen a sut gallwn ni greu mecanweithiau ar gyfer ymdopi gartref.

Gwnaeth Prifysgol Abertawe hefyd bob ymdrech i annog staff i gadw’n brysur yn ystod y cyfnod clo gydag ioga, pilates, her cadw’r-bêl-yn-yr-awyr a sesiwn ymarfer corff ddyddiol.

Lansiodd Prifysgol De Cymru (PDC) arolwg iechyd a llesiant ar gyfer ei staff, â'r nod o asesu iechyd a llesiant staff PDC ac, yn benodol, effaith gweithio o bell. Roedd PDC yn bwriadu defnyddio'r adborth i helpu â chanolbwyntio cefnogaeth ac adnoddau llesiant i ddiwallu anghenion staff orau. Aeth myfyrwyr o’r Brifysgol hefyd ati i rannu dyddiaduron fideo byr, gan gynnig eu cynghorion a'u safbwyntiau ar gyfer ymdopi â'u hiechyd a'u llesiant yn ystod y cyfnod clo.

Datblygodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant raglen o'r enw SoCom, sy'n darparu grŵp cymdeithasol rheolaidd, mewn amgylchedd cefnogol, i fyfyrwyr sy'n cael trafferth â rhyngweithio cymdeithasol a llesiant personol, lle maen nhw'n dysgu datblygu sgiliau i hyrwyddo agweddau, ymddygiad a dealltwriaeth iach o'u hunain ac eraill.

Lansiodd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ymgyrch i annog myfyrwyr i rannu gweithredoedd o garedigrwydd trwy eu ffrydiau cyfryngau cymdeithasol, â'r nod o gyrraedd 1,000 o weithredoedd o garedigrwydd trwy gydol mis Mai. Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd wedi cyhoeddi blog gyda phum gweithred o garedigrwydd y gallwch chi fynd ati i’w cyflawni ar unwaith.