StudyUK Alumni awards winner graphic featuring Trinh Khanh

Dyfarnwyd y wobr Busnes ac Arloesi i Trinh Khanh Ha, ac enillodd Nguyen Huu Tu y Wobr am Effaith Gymdeithasol. Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod cyflawniadau eithriadol myfyrwyr rhyngwladol sydd wedi astudio yn y DU ac sydd wedi cael effaith sylweddol yn eu dewis feysydd.

Mae Trinh Khanh Ha wedi graddio o raglen MBA ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, lle datblygodd ei sgiliau mewn rheolaeth ac entrepreneuriaeth. Yn dilyn hyn, roedd yn un o gyd-sefydlwyr Vulcan Augmetics - cwmni technoleg newydd sy'n datblygu ac yn gweithgynhyrchu breichiau robotig hynod ymarferol a fforddiadwy, gyda'r nod o ddod â thechnoleg i fywyd pobl ag anableddau mewn gwledydd sy'n datblygu.

StudyUK Alumni awards winner graphic featuring Nguyen Huu Tu

Mae Nguyen Huu Tu, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, wedi cael ei gydnabod am ei rôl flaenllaw mewn ysgogi dros 86,800 o broffesiynwyr ym maes iechyd i drefnu miloedd o ymgyrchoedd iechyd ar draws Fietnam. Yn ystod pandemig Covid-19 fe helpodd i sicrhau bod miloedd o feddygon ar gael i gynorthwyo'r system iechyd yn ystod y cyfnod hwn o bwysau dwys.

Meddai Kieron Rees, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Prifysgolion Cymru

“Rydym yn hynod falch o weld cyn-fyfyrwyr prifysgolion Cymru fel Trinh Khanh Ha a Nguyen Huu Tu yn dod yn arweinwyr yn eu meysydd. Mae’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni’n destament i ansawdd eithriadol yr addysg a’r gefnogaeth a ddarperir gan ein prifysgolion, ac i’r dalent ragorol o fewn cymuned myfyrwyr rhyngwladol Cymru.

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu mwy o fyfyrwyr dawnus ac uchelgeisiol o Fietnam i Gymru a’u cefnogi i gyflawni eu potensial.

“Llongyfarchiadau i Trinh Khanh Ha a Nguyen Huu Tu ar eu llwyddiannau eithriadol, a dymunwn y gorau iddynt yn eu hymdrechion yn y dyfodol.”