Trwy ei frand Astudio yng Nghymru, bu Cymru Fyd-eang yn gweithio gydag aelodau eraill o deulu brand Cymru a sefydliadau Cymreig eraill fel Tîm Cymru i gyfrannu at ymdrech genedlaethol i nodi'r cyflawniad hwn.

Daeth Cymru Fyd-eang â gweithgor ynghyd oedd yn cynnwys cydweithwyr o brifysgolion a cholegau i roi adborth ar ddatblygiadau Tîm Cymru a rhannu'r hyn yr oedd gan sefydliadau oedd yn cyfranogi ar y gweill. Yn ogystal, llwyddodd y grŵp hwn i gydweithio a gwneud cais llwyddiannus i Gronfa Cymorth Partneriaid Llywodraeth Cymru i greu cyfres o fideos i’w rhannu ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod ymgyrch Cwpan y Byd Cymru. Nod y fideos oedd cipio’r gorau o Gymru fel gwlad drwy lygaid ein poblogaeth o fyfyrwyr prifysgol a choleg Cenhedlaeth Z a rhannu hyn i ysbrydoli cynulleidfaoedd rhyngwladol newydd, yn ogystal ag adeiladu cyffro ac ymgysylltiad heintus gartref drwy’r cyfle unigryw y mae cyrraedd Cwpan y Byd yn ei ddarparu.

Cafodd myfyrwyr o brifysgolion a cholegau o bob rhan o Gymru sylw, gan gynnwys Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Llandrillo Menai, Prifysgol Abertawe, Coleg Gŵyr Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Bangor, Coleg Gwent, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd. Cafodd amrywiaeth eang o fyfyrwyr eu cynnwys, o Tsieina, Brasil, Iran, India, yr Almaen, Sbaen, Mecsico, Malaysia, UDA, Jamaica, Pacistan, Nigeria, Slofacia a Chymru. Gellir gweld pob un o'r deg fideo yma.

Mae tudalen hafan gwefan Astudio yng Nghymru hefyd wedi cael ei meddiannu gan Gwpan y Byd.  Mae yna ddolen at ddeunydd cysylltiedig gan gynnwys fideos Cwpan y Byd a blog tu ôl i’r llenni ar greu ein cyfres fideos: taith bêl-droed Cymru i Gwpan y Byd 2022; eitem am y gweithgareddau y mae sefydliadau’n eu cyflwyno i ddathlu Cymru yng Nghwpan y Byd; a Thwf Wrecsam, gan ganolbwyntio ar ddatblygiad Wrecsam fel rhanbarth dros y degawd diwethaf gyda llwyddiannau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Chlwb Pêl-droed Wrecsam. 

Gellir dod o hyd i hyb Cwpan y Byd Astudio yng Nghymru yma.