Yn 2023, cytunodd Cymru Fyd-eang ar bartneriaeth newydd gyda Sefydliad Ymchwil - Fflandrys, Fonds Wetenschappelijk Onderzoek – Vlaanderen (FWO) i hyrwyddo cyfranogiad grwpiau ymchwil o Gymru yng ngalwad FWO 2023 am Rwydweithiau Ymchwil Gwyddonol (RhYG). O dan y cytundeb, gallai pob RhYG a gyflwynir sy’n cynnwys grwpiau ymchwil o Gymru ofyn am ychwanegiad gan Gymru Fyd-eang o hyd at £4,000 y flwyddyn am dair blynedd.

Cyflwynodd Rhwydwaith Ewropeaidd Llinad-y-Dŵr Prifysgol Aberystwyth a phrosiect Cymunedau Arfer Treftadaeth mewn Byd Digidol Prifysgol Abertawe geisiadau llwyddiannus i FWO ac maent wedi derbyn cyllido ychwanegol gan Gymru Fyd-eang.

Bydd y prifysgolion yn gweithio'n agos gyda llawer o bartneriaid Ewropeaidd, gan gynnwys 10 sefydliad Ffleminaidd a phrifysgolion a sefydliadau yn Iwerddon, y Ffindir, Denmarc, a Sweden.

Meddai Dr Dylan Gwynn Jones o Brifysgol Aberystwyth:

“Rydym wrth ein bodd yn Aberystwyth i fod yn rhan o’r fenter gydweithredol ragorol hon gyda chydweithwyr o Fflandrys ac Iwerddon, gan edrych ar rôl llinad-y-dŵr mewn glanhau’r amgylchedd ac fel ffynhonnell werthfawr o brotein gwyrdd yn y dyfodol.”

Dywedodd Dr Hilary Orange, Darlithydd mewn Treftadaeth a Chyd-gyfarwyddwr CHART (Canolfan Ymchwil a Hyfforddiant Treftadaeth) ym Mhrifysgol Abertawe wrthym:

“Rydym wrth ein bodd bod gwaith CHART wedi’i gydnabod trwy’r wobr bwysig hon, a fydd yn ein galluogi i ddeall ffurfiau cymunedol ar greu treftadaeth o safbwyntiau trawswladol. Rydym yn falch o ddod ag arbenigedd mewn treftadaeth ddiwydiannol i'r prosiect, ynghyd â dealltwriaeth o gynllunio treftadaeth trwy dechnolegau digidol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Phrifysgol Antwerp a’r partneriaid eraill sy’n perthyn i’r rhwydwaith rhyngwladol i gyfrannu at fudd cymdeithasol a diwylliannol ym mhob rhanbarth.”

Meddai Gwen Williams, Pennaeth rhaglen Cymru Fyd-eang:

“Mae cydweithredu rhyngwladol yn sbardun i ragoriaeth, ac rwy’n falch bod Cymru Fyd-eang yn gallu cynorthwyo prifysgolion yng Nghymru i gydweithio â’u partneriaid Ewropeaidd.

“Mae Fflandrys a Chymru wedi datblygu partneriaethau cryf ac wedi ymgymryd â gweithgareddau ymchwil ac arloesedd sylweddol gyda’i gilydd, ac mae’r gweithgaredd hwn yn cryfhau’r cysylltiadau hirsefydlog hyn ymhellach.”

“Rydym yn gobeithio y bydd y rhwydweithiau hyn yn galluogi sefydliadau yng Nghymru i ffurfio cysylltiadau er mwyn sicrhau arian pellach o raglenni cyllido Ewropeaidd.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol FWO, Dr. Hans Willems wrthym:
“O fewn FWO rydym o hyd yn chwilio am ffyrdd o hybu cyfleoedd ar gyfer cydweithredu rhyngwladol i’n hymchwilwyr yn Fflandrys. Felly, rydym yn falch o weld ein bod ni, trwy ein sianel bresennol ar gyfer Rhwydweithiau Ymchwil Gwyddonol, wedi llwyddo i ysgogi mwy o bartneriaethau rhwng Fflandrys a Chymru mewn ymchwil sylfaenol.”