Mae'r gronfa newydd hon, sy'n agored i grwpiau ymchwil newydd a rhai sy’n bodoli eisoes, wedi'i sefydlu i gynorthwyo â gweithgarwch ymchwil cydweithredol ym mhrifysgolion Cymru. Mae grantiau’n cael eu darparu fel cyllid sbarduno ar gyfer datblygu cais i gyllidwyr allanol o fewn y DU, Ewrop neu’n rhyngwladol.

Roedd yr alwad am gyllid yn annog ceisiadau ar gyfer prosiectau fyddai’n cynnwys partneriaid rhyngwladol, a darparodd rhaglen Cymru Fyd-eang arian i gefnogi ceisiadau a oedd yn cynnwys trefniadau cydweithredol Ewropeaidd yn ogystal â gyda Gogledd America.

Bydd deuddeg o'r ceisiadau llwyddiannus yn cynorthwyo prosiectau sy'n ymwneud â phrifysgolion yng Nghymru’n gweithio gyda phartner rhyngwladol yn Ewrop neu Ogledd America. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar feysydd gan gynnwys mynegiant lleferydd, sero net a datgarboneiddio, dementia a nam gwybyddol, digideiddio diwydiannol, a meddygaeth adfywiol.

Mae'r un-ar-ddeg prosiect arall yn ymwneud â phartneriaethau rhwng tair neu fwy o brifysgolion Cymru. Bydd y rhain yn cael cymorth i ddod â chryfderau ymchwil ynghyd mewn meysydd fel llesiant addysgol, datrysiadau sy’n seiliedig ar le ar gyfer arbed ynni, iechyd a gofal cymdeithasol, ac ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Meddai Lewis Dean, Pennaeth Rhwydwaith Arloesedd Cymru:

“Rwy'n falch iawn o weld cymaint o geisiadau llwyddiannus i'n cronfa grantiau bach yn cefnogi ymchwil cydweithredol yng Nghymru. Roedd ansawdd ac amrywiaeth y cynigion yn golygu ein bod wedi cynyddu cyfanswm y cyllid cychwynnol dros £70k yn y pen draw.

“Gan fod cydweithio yn ffocws allweddol i’r gronfa, rwy’n arbennig o falch o weld cymaint o bartneriaethau rhyngwladol, yn ogystal â chynigion sy’n cynnwys rhanddeiliaid allanol megis awdurdodau lleol, byrddau iechyd, y llywodraeth, diwydiant, a grwpiau cymunedol.

“Cafodd y Rhwydwaith ei sefydlu i gryfhau ymchwil ac arloesedd yng Nghymru drwy gydweithio, ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth allwn ni ei gyflawni fel sector pan fyddwn yn cynnig cymorth i’n prifysgolion i adeiladu’r partneriaethau hyn, yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol.”

Enghreifftiau o brosiectau

Prifysgol Aberystwyth
Partneriaid: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Mae hwn yn drefniant cydweithredol newydd sydd â’r nod o ymchwilio i gymunedau yng Nghymru mewn rhanbarthau dynodedig dros y ddwy ganrif ddiwethaf, gan amlygu cysylltiadau byd-eang o ran diwylliant a hunaniaeth Gymreig.

Prifysgol Bangor
Partneriaid: Prifysgolion Aberystwyth, Caerdydd ac Abertawe, Prifysgol Hull, UK-CEH, Comisiwn Ffermio a Chefn Gwlad Cymru, Sgema, DEG

Nod y prosiect ymchwil hwn yw gweithredu datrysiadau sy'n seiliedig ar le ar gyfer creu ac arbed ynni, gan edrych ar yr ecosystem leol a’r cyd-destun cymdeithasol.

Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Partneriaid: Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, Prifysgol Dechnolegol Munster, Iwerddon

Bydd y prosiect hwn yn archwilio sut y gall cyfryngau synthetig realistig sy’n seiliedig ar Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) gefnogi twf y diwydiant ffilm creadigol yng Nghymru.

Prifysgol Caerdydd
Partneriaid: Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aix-Marseille, Ffrainc

Nod y prosiect hwn yw datblygu teclyn rheoli ynni sy'n gallu canfod carbon ar gyfer canolfannau data i leihau costau ynni, cynyddu effeithlonrwydd ynni, a lleihau allyriadau carbon.

Prifysgol Abertawe
Partneriaid: Y Brifysgol Agored yng Nghymru; Prifysgol McGill, Canada; LLS-Rowiak Hannover yr Almaen

Bydd y prosiect hwn yn cysylltu Abertawe â phartneriaid rhyngwladol newydd yng Nghanada a’r Almaen, er mwyn datblygu deunyddiau newydd sy’n helpu cyrff i wella’n gyflymach drwy niwro angiogenesis, ac i wella’r broses o weithgynhyrchu bioddeunyddiau.

Prifysgol De Cymru
Partneriaid: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; Prifysgol Ghent, Gwlad Belg; Coleg Meddygol Bengbu, Anhui, Tsieina

Mae ymchwilwyr PDC yn bwriadu adeiladu rhwydwaith ymchwil rhyngwladol i ddatblygu teclyn iechyd digidol sy’n gweithredu o bell, gan archwilio mynegiant lleferydd, gweithrediad ysgyfeiniol ac anadlu.

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Partneriaid: Prifysgol Abertawe; Prifysgol Aberystwyth; Prifysgol Bangor

Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar weithgarwch a ariennir ar hyn o bryd i adolygu a ellir defnyddio 'Welsh Writing in English: A Bibliography' fel arf ar gyfer cyfnewid gwybodaeth mewn ysgolion. Ei nod yw comisiynu academyddion i greu 10 'llwybr' unigryw drwy'r llyfryddiaeth sy'n canolbwyntio ar wahanol agweddau ar Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru, ar draws amrywiaeth o themâu cysylltiedig â Chydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant (EDI).