Sefydlwyd Clinig Cyfraith Teulu yr Adran yn dilyn gostyngiad yn y ddarpariaeth Cymorth Cyfreithiol yn lleol, ac mae wedi bod yn cynnig cymorth cyfreithiol am ddim i bobl yng Ngheredigion ers 2016. Mae'n ymdrin â deg cleient bob mis ar gyfartaledd, gyda chymorth ychwanegol, gan gynnwys cwblhau gwaith papur cyfreithiol, yn cael ei ddarparu gan fyfyrwyr trydedd flwyddyn neu ôl-raddedig dan oruchwyliaeth cyfreithiwr cymwysedig.

Mae'r Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr wedi bod yn darparu cyngor cyfreithiol, gwaith ar achosion a chymorth ar-lein am ddim i gyn-aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd ers 2015. Mae nifer yr unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn flynyddol wedi codi i 200 yn 2022-23. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth naill ai'n ddi-waith neu'n derbyn budd-daliadau neu bensiwn; mae llawer yn ddigartref ac mae'r mwyafrif yn dod o dan ddiffiniad Sefydliad Joseph Rowntree o dlodi.