Gan weithio gydag awdurdodau lleol, grwpiau o ffrindiau, elusennau digartrefedd ac ysgolion, mae'r brifysgol yn cefnogi gwaith sy'n seiliedig ar egwyddorion ac arferion creu lleoedd cymunedol.

Mae'r Ganolfan yn amlygu pwysigrwydd treftadaeth ar gyfer hunaniaeth ddiwylliannol ac yn dangos sut y gall treftadaeth ddiwylliannol ddod yn ffocws ar gyfer adfywio, datblygiad economaidd a llesiant. Mae gweithgareddau’r Ganolfan yn cynnwys ymchwil gydweithredol, datblygu polisi rhyngwladol, cyfres o seminarau, gweithdai, addysg, arloesi digidol, dehongli treftadaeth, ymgynghoriaeth a mwy.