Pan darodd ymosodiad seibr WannaCry y GIG yn 2017, yn achosi panig eang, dryswch ac aflonyddwch, cafodd yr holl wlad sioc enfawr.

Roedd yn adeg fawr.

Nid oedd ymosodiadau seibr bellach yn cael eu hystyried yn risg i'n dyfeisiau neu ddata personol, ond yn fygythiad mawr i'n seilwaith critigol a allai gael canlyniadau dinistriol o bosibl.

Mewn dim ond wyth awr, ymosodwyd ar fwy na 200,000 o gyfrifiaduron ar draws 150 o wledydd, gyda chyfanswm colledion yn amrywio o gannoedd o filiynau i biliynau o ddoleri.

Fodd bynnag, gallai'r ymosodiad fod wedi cael ei atal, meddai'r Athro Pete Burnap, Athro Gwyddorau Data a Seiberddiogelwch yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd.

Mae'r syniad o greu amddiffyniad byw, awtomataidd yn erbyn ymosodiadau seibr wedi bod yn nod gan yr Athro Burnap a'i dîm ers amser maith.

Gan ddefnyddio'r datblygiadau diweddaraf mewn deallusrwydd artiffisial a dysgu peiriannol, maent wedi camu i ffwrdd o'r dull mwy traddodiadol o adnabod meddalwedd maleisus, neu faleiswedd, gan ddefnyddio llofnodion cod penodol, i olrhain ei ymddygiad yn lle hynny.

Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Caerdydd