Croesawu’r sector addysg bellach a sgiliau

Fel cadeirydd grŵp rhyngwladol ColegauCymru, roeddwn wrth fy modd y byddai addysg bellach yn cael ei chynnwys yn rhaglen Cymru Fyd-eang III. Mae gan Gymru sector addysg bellach a sgiliau ffyniannus, gyda phedwar o’n colegau ar hyn o bryd yn mynd ati i recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, ac mae yna ddiddordeb ar draws y sector mewn adeiladu partneriaethau ar gyfer cydweithredu.

Roeddwn am achub ar y cyfle hwn i edrych yn ôl ar flwyddyn gyntaf ein cydweithrediad â cholegau addysg bellach a rhannu rhai uchafbwyntiau o’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni hyd yn hyn.

Hyrwyddo colegau addysg bellach ar y llwyfan byd-eang

Yn unol â’n hymdrechion i hybu proffil rhyngwladol addysg bellach yng Nghymru, rydym wrth ein bodd o weld y pedwar coleg sy’n recriwtio’n rhyngwladol yn ymddangos ar wefan Astudio yng Nghymru. Mae hwn yn gam cyffrous ymlaen wrth hyrwyddo’r sector i gynulleidfa fyd-eang o ddarpar fyfyrwyr, gan arddangos y cyfleoedd addysgol eithriadol sydd ar gael mewn colegau, ynghyd ag atgyfnerthu Cymru ymhellach fel cyrchfan addysg ac astudio blaenllaw.

Mae gwefan Astudio yng Nghymru eisoes wedi cynnwys deunydd newydd sy'n canolbwyntio ar golegau ac addysg bellach, yn ogystal â rhagarweiniad i addysg bellach yng Nghymru, sut mae colegau'n cefnogi eu myfyrwyr gyda sgiliau cyflogadwyedd, a gwybodaeth am wneud cais i goleg.

Grymuso entrepreneuriaid benywaidd

Cynhaliodd Cymru Fyd-eang ymweliad deuddydd gan WE-Hub, sef sbardun entrepreneuriaid benywaidd cyntaf India yn Telangana, Hyderabad. Roedd yr ymweliad yn cynnwys cyfarfodydd cynhyrchiol gyda ChwaraeTeg, Tramshed Tech, ColegauCymru, SBARC ym Mhrifysgol Caerdydd, Taith, Grŵp Colegau NPTC, Ysgol Uwchradd Caerdydd, Rhwydwaith Menywod mewn STEM Cymru a’r Gwobrau Cychwyn Busnes Cenedlaethol.

Canolbwyntiodd y trafodaethau ar ysbrydoli menywod ifanc i ddilyn pynciau STEM, partneriaethau symudedd myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch, a chynnig cymorth i entrepreneuriaid yn eu hymdrechion i sefydlu busnesau o’r newydd. Cynhaliwyd cyfarfod bwrdd crwn hefyd rhwng busnesau newydd sy’n cael eu rhedeg gan entrepreneuriaid benywaidd o WE-Hub a Tramshed Tech.

Mae gan golegau bob hawl i fod yn falch o’r gwaith y maent yn ei wneud yng Nghymru i rymuso entrepreneuriaid benywaidd, ac rwy’n falch iawn o weld yr ymrwymiad hwnnw’n cael ei ymestyn i gefnogi sefydliadau fel WE-Hub yn rhyngwladol.

Cymru’n ymgysylltu â sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET) Fietnam

Roeddwn yn falch o allu cynrychioli sector addysg bellach Cymru yn Neialog Parc Wilton yn Ninas Ho Chi Minh, Fietnam. Roedd y gynhadledd yn archwilio “Her sgiliau yng Ngwledydd De-Ddwyrain Asia (ASEAN): Sut gall y llywodraeth, darparwyr addysg a chyflogwyr ddarparu sgiliau ar gyfer yr 21ain Ganrif?”. Roedd cynrychiolwyr o weinidogaethau, darparwyr addysg a chyflogwyr ar draws y rhanbarth yn bresennol, yn ogystal â chynrychiolwyr o’r DU gan gynnwys yr Adran Busnes a Masnach a Hyrwyddwr Addysg Ryngwladol y DU, Syr Steve Smith.

Daeth yn amlwg yn fuan iawn bod yr heriau sy'n wynebu rhanbarth ASEAN yn cyfateb i rai Cymru a gweddill y DU. Rhannodd y cynrychiolwyr anawsterau gan gynnwys cysylltu’r cwricwlwm â’r sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau, ymgysylltu â grwpiau anodd eu cyrraedd a chefnogi diwylliant o ddysgu gydol oes.

Yn amlwg, mae'r argyfwng hinsawdd hefyd yn bryder gwirioneddol i wledydd yn rhanbarth ASEAN. Gan ddefnyddio'r Nodau Datblygu Cynaliadwy Byd-eang, mae cynlluniau addysgol, pynciau a chyrsiau'n cael eu creu i sicrhau bod myfyrwyr yn deall materion cyfredol ac at y dyfodol sy'n ymwneud â chynhesu byd-eang a'i effaith uniongyrchol ac ehangach ar yr amgylchedd. Mae gwledydd yn rhanbarth ASEAN yn arbennig o awyddus i rannu a chydweithio yn y maes gwaith hwn ar draws yr holl ddarpariaeth.

Yn ogystal â chymryd rhan yn y Ddeialog Parc Wilton, treuliais amser yn ymweld â dau goleg galwedigaethol, Coleg Technoleg Thu Duc a’r Coleg Rhyngwladol yn Ninas Ho Chi Minh i ddysgu mwy am y sector VET yn Fietnam.

Cryfhau cysylltiadau â Chanada

Trefnodd Cymru Fyd-eang, mewn partneriaeth â CholegauCymru, ddirprwyaeth yn cynnwys penaethiaid saith coleg o Gymru i fynychu cyngres flynyddol Ffederasiwn Colegau a Pholytechnig y Byd/Colegau ac Athrofeydd Canada ym Montreal.

Yn ystod yr ymweliad, cynhaliodd Cymru Fyd-eang dderbyniad i ddathlu cydweithio rhwng sefydliadau addysg bellach yng Nghymru a Chanada, gan nodi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Colegau a Sefydliadau Canada, ColegauCymru, a Phrifysgolion Cymru.

Os hoffech chi ddarllen mwy am y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn, gallwch chi wneud hynny yma.

Archwilio trefniadau cydweithredu Ewropeaidd

Dechreuodd Cymru Fyd-eang a CholegauCymru ar gyfres o gyfarfodydd ym Mrwsel, fel rhan o ymweliad a drefnwyd gan Gymru Fyd-eang ac Addysg Uwch Cymru Brwsel, i archwilio cyfleoedd ar gyfer partneriaethau gyda Fflandrys a Baden-Württemberg. Gosododd y trafodaethau seiliau ar gyfer cydweithio mewn gwahanol sectorau, gan gynnwys arweinyddiaeth addysg ac ymchwil.

Hybu sgiliau yn y diwydiant cerbydau trydan yn India

Trefnodd Cymru Fyd-eang weithdy cerbydau trydan (EV) pum diwrnod yng Ngholeg Peirianneg a Thechnoleg Geethanjali yn Hyderabad, Telangana.

Cyflwynwyd y sesiynau gan hyfforddwyr addysg bellach o Grŵp Colegau NPTC a Grŵp Llandrillo Menai, gyda chefnogaeth y Cylch Ymchwil ac Arloesi yn Hyderabad; nod y gweithdai oedd hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr Indiaidd yn y diwydiant cerbydau trydan. Cafodd y myfyrwyr wybodaeth fanwl am geir trydan a thechnolegau cysylltiedig, gan osod y llwyfan ar gyfer cyrsiau pellach gyda phartneriaid yn India. 

Meithrin partneriaethau rhwng Cymru ac India

Drwy gyllido o gam dau rhaglen Cymru Fyd-eang, llwyddodd Cymru Fyd-eang i hwyluso ymweliad gan T-Hub, campws arloesi busnesau newydd mwyaf y byd sydd wedi’i leoli yn Telangana, India ym mis Gorffennaf 2022. Cafodd yr ymwelwyr gyfle i archwilio gwahanol ffyrdd o gydweithio mewn meysydd penodol megis EV a thechnoleg werdd. Yn ystod yr ymweliad cawsant eu cyflwyno i gydweithwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro a Choleg Gŵyr Abertawe.

Arweiniodd y cyfarfod hwn at gyflwyniad llwyddiannus ar y cyd o gais Llwybr 2, wedi’i ariannu gan Taith, rhwng Coleg Gŵyr Abertawe, T-Hub, a Choleg Caerdydd a’r Fro i ddatblygu cyfres o gyrsiau byr hyblyg ar EV a thechnoleg werdd.

Mae bwlch rhwng dyfodiad cyflym technolegau newydd a chyrsiau sydd ar gael i hyfforddi entrepreneuriaid mewn sgiliau gwyrdd. Y gobaith yw y bydd prosiect Llwybr 2 Taith yn helpu i ateb y galw am weithwyr proffesiynol yn y sectorau amgylcheddol a chynaladwyedd, ac yn cyfrannu at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. 

 

Mae integreiddio’r sector addysg bellach i raglen Cymru Fyd-eang III wedi cyflawni cymaint yn ei flwyddyn gyntaf, o ddarparu cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio, meithrin partneriaethau rhyngwladol a hyrwyddo colegau Cymru yn fyd-eang, i rymuso’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ac arloeswyr.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i gydweithwyr ar ran Cymru Fyd-eang am eu cydweithrediad eleni, yn enwedig ColegauCymru, y colegau yng Nghymru, ein partneriaid yn Llywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, CCAUC, a’n cyllidwyr, Llywodraeth Cymru drwy Taith. Edrychwn ymlaen at gydweithio i gael llwyddiant pellach yn y flwyddyn academaidd newydd.