Pam mae un athletwr elît yn ennill medal aur ar ôl medal aur tra bod eraill, sy'n ymddangos yn gyfartal o ran talent a chyfle, yn methu â gwneud hefyd?

Comisiynodd UK Sport – asiantaeth y llywodraeth sy'n gyfrifol am fuddsoddi mewn chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd yn y Deyrnas Unedig – dîm ymchwil, dan arweiniad Prifysgol Bangor, i ymchwilio i'r gwahaniaethau rhwng athletwyr uwch-elît sy'n ennill medalau dro ar ôl tro a'u cyd-chwaraewyr elît.

Bu’r tîm ymchwil o Fangor yn gweithio ar brosiect Great British Medalists (GBM) gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Caerwysg. Fe wnaethon nhw gymharu bywydau 32 o gyn-Olympiaid Prydain Fawr a oedd yr un fath o ran eu camp, rhyw, disgyblaeth a chyfnod. Roedd y grŵp yn cynnwys:

  • 16 o athletwyr uwch-elît a enillodd sawl medal aur mewn mwy nag un Gemau Olympaidd neu bencampwriaeth y byd
  • 16 o athletwyr elît a oedd wedi ennill medalau ond ddim mewn pencampwriaeth fawr.

Bu'r tîm ymchwil yn cyfweld â'r athletwyr am bob agwedd ar eu datblygiad a'u gyrfa. Buont hefyd yn cyfweld â hyfforddwyr a rhieni'r athletwyr.

Dealltwriaeth newydd o dalent chwaraeon

Arweiniodd prosiect GBM at ddealltwriaeth newydd o beth yw talent chwaraeon a sut mae'n datblygu.

Canfu ymchwilwyr fod athletwyr uwch-elît yn fwy tebygol nag athletwyr elît o fod wedi:

  • cael profiad bywyd negyddol sylweddol yn ystod blynyddoedd eu datblygiad
  • bod yn ddidostur a digyfaddawd wrth ddilyn eu gyrfa chwaraeon
  • dod yn ôl o nam perfformiad difrifol yn ystod oedolaeth
  • cael trobwynt arwyddocaol yn eu gyrfa a’u gwnaeth yn fwy penderfynol o  ragori
  • parhau i wella eu perfformiad yn ystod oedolaeth. 

Rhannodd y tîm eu canfyddiadau trwy 10 gweithdy ar draws y DU ar gyfer penaethiaid chwaraeon, cyfarwyddwyr perfformiad, hyfforddwyr rhaglen a rheolwyr llwybrau. Yn eu tro, cafodd trafodaethau’r gweithdai eu rhannu â phanel cynghori arbenigol a ddatblygodd strategaeth ar gyfer UK Sport i weithredu a lledaenu canlyniadau'r astudiaeth.

Cynhaliwyd 10 prosiect peilot hefyd gyda chyrff llywodraethu cenedlaethol unigol a grwpiau eraill â diddordeb arbennig .

Gwella rhaglenni datblygu talent

Gwnaeth y prosiect dynnu sylw at bwysigrwydd iechyd meddwl athletwyr. Arweiniodd at benodi Changing Minds (cwmni o seicolegwyr clinigol) i helpu cyrff llywodraethu cenedlaethol i gefnogi llesiant meddyliol athletwyr yn well.

O ganlyniad i ganfyddiadau'r ymchwil, gwnaeth UK Sport newidiadau i ddatblygiad athletwyr, ac fe wnaeth pob un o'r 42 o gyrff llywodraethu cenedlaethol UK Sport wella eu rhaglenni datblygu talent.

Mae fersiynau o’r prosiect ar gyfer campau penodol hefyd wedi’u cwblhau ar gyfer Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, Undeb Rygbi Pêl-droed a Thriathlon Prydain. 

Y tîm ymchwil

Yr Athro Lew Hardy, Dr Matt Barlow a’r Athro Tim Woodman – Prifysgol Bangor

Partneriaid ymchwil

UK Sport, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerwysg

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn