I blanhigion, mae bacteria Burkholderia yn aml yn fuddiol, gan eu bod, er enghraifft, yn eu cytrefu a'u hamddiffyn rhag ymosodiad gan ffwng a phathogenau eraill.

Ond maent wedi datblygu ymwrthedd gwrthficrobaidd uchel sy'n golygu eu bod yn parhau i fod yn fygythiad posibl i bobl sy'n agored i niwed. Enghraifft arall o'r gwytnwch hwn yw eu gallu i oroesi mewn cynhyrchion o waith dyn lle gallant achosi halogiad.

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r broblem hon, cymhwysodd yr Athro Mahenthiralingam ei waith gyda chleifion CF, er mwyn canfod bacteria mewn cynhyrchion megis colur a nwyddau ymolchi, sy'n cael eu gwneud mewn amgylchedd nad yw'n ddi-haint. Gall halogiad beri risg iechyd difrifol i ddefnyddwyr ac arwain at alw cynnyrch costus yn ôl.

Mae ei ymchwil wedi helpu'r gwneuthurwr byd-eang Unilever i leihau achosion o halogiad, a datblygu gwell fformwleiddiadau o gadwolion i atal micro-organebau rhag difetha cynnyrch.

Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Caerdydd