Pan darodd COVID-19, gan anfon y DU i gyfnod clo llawn, trodd miliynau ohonom at newyddion wedi’u darlledu er mwyn cael atebion.

Ond i ba raddau y bu i’r ddarpariaeth newyddion honno lwyddo i rannu’r wybodaeth yr oeddem ei hangen? Trodd ein hacademyddion eu sylw’n gyflym at ddadansoddi’r mynydd o straeon.

Fel yr esbonia’r Athro Stephen Cushion sydd wedi’i leoli yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, “Ym mis Mawrth 2020, roeddem yn profi digwyddiad hanesyddol enfawr. Ac yn y funud honno, trodd llawer o bobl at y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (Y BBC), gydag 20 miliwn o wylwyr yn tiwnio i mewn ar gyfer darllediadau rhwydwaith y BBC o gyhoeddiadau Llywodraeth y DU, yn ystod wythnos gyntaf y cyfnod clo.

“Roedd rôl newyddiadurwyr yn hanfodol wrth i bobl geisio gwneud synnwyr o’r datblygiadau diweddaraf. Nid oes amheuaeth bod newyddiadurwyr wedi gweithio’n ddi-baid er mwyn ateb y galw. Er hynny, roedd y newyddion roedden ni’n eu gwylio yn codi cwestiynau ynghylch pa mor effeithiol yr oedd newyddiadurwyr yn gwasanaethu holl wledydd y DU.”

Mae iechyd yn fater datganoledig yn y DU – sy’n golygu bod penderfyniadau a wneir yn Lloegr gan Lywodraeth y DU yn annibynnol i raddau helaeth ar yr hyn y mae llywodraethau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn dewis ei wneud.

“Yn ystod wythnosau cyntaf y pandemig, ni fyddai’r rhan fwyaf o bobl wedi gwybod mai cytundeb rhwng pedair gwlad oedd y cyfnod clo cyntaf,” meddai’r Athro Cushion. “Roedd y darllediadau newyddion o’r cyhoeddiadau cyntaf, pob un, yn canolbwyntio’n bennaf ar y prif weinidog a llywodraeth y DU.

“Wrth i’r wythnosau fynd heibio, ac wrth i bob gwlad yn y DU osod eu rheolau eu hunain, daeth y diffyg dealltwriaeth o ran y pwerau datganoledig hyn, i’r amlwg.

“Aeth pob llywodraeth ati i ddefnyddio dulliau gwahanol. Yr her i newyddiadurwyr oedd, sut i egluro hynny mewn ffordd glir a chryno er mwyn sicrhau bod negeseuon iechyd cyhoeddus sy’n unigryw i bob gwlad benodol, yn cael eu deall gan bob gwyliwr rhaglennu rhwydwaith – rhwydwaith sy’n cynrychioli’r DU gyfan.”

Roedd yr Athro Cushion a’i gydweithwyr mewn sefyllfa dda i archwilio’r materion hyn ar ôl pymtheg mlynedd o ymchwilio i’r rôl y mae darlledwyr yn ei chwarae wrth gyfathrebu datganoli.

Amlygodd eu hastudiaeth o newyddion teledu’r cyfnod clo ddiffyg eglurder ynghylch adrodd am wahanol gyfyngiadau covid ym mhob gwlad. Cyflwynwyd eu canfyddiadau i ymchwiliad ‘Future of Public Service Broadcasting Inquiry’ Adran Ddigidol – Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, Llywodraeth y DU. Fe’u cyflwynwyd hefyd i ymchwiliad Senedd Cymru ym mis Gorffennaf 2020 – ymchwiliad i effaith y pandemig ar newyddiaduraeth a’r cyfryngau lleol.

Ond yn bwysicach efallai, cafodd argraffiadau a chynghorion yr Athro Cushion eu bwydo’n uniongyrchol i ystafelloedd newyddion – drwy gysylltiadau hir sefydlog mae’r tîm, drwy eu gwaith, wedi’u meithrin â golygyddion. Buont yn ymgysylltu â darlledwyr amlycaf y DU yn ystod y pandemig: Newyddion y BBC (BBC News), ITV News, Channel 4 News, Channel 5 News a Sky News.

Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Caerdydd