Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, meddai llefarydd ar ran Prifysgolion Cymru:

"Mae’r cyhoeddiad gan y Gweinidog ar newidiadau mewn ffioedd dysgu a chynhaliaeth i fyfyrwyr i’w groesawu.  

"Mae yna gryn lawer o dystiolaeth ynghylch y pwysau ariannol sy’n wynebu’r sector prifysgolion, ac mae hyn yn cynrychioli cam angenrheidiol, er nad yw’r unig un, at helpu i fynd i’r afael â’r pwysau hwnnw a sicrhau cynaladwyedd hir-dymor y sector."