Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol gan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA)

Mae'r Athro Elwen Evans, Cadeirydd Prifysgolion Cymru, yn egluro pam mae'n rhaid i brifysgolion fod wrth galon cynllun uchelgeisiol ar gyfer adnewyddu cenedlaethol.

Ers dros 200 mlynedd mae prifysgolion wedi bod wrth galon stori genedlaethol Cymru, gan sbarduno cyfleoedd, arloesedd a chynnydd cymdeithasol.

Ond, fel sector – ac fel cymdeithas – rydym yn mynd trwy gyfnod o newid cyflym. O'r chwyldro digidol a newid hinsawdd, i anghydraddoldeb cynyddol ac ansefydlogrwydd byd-eang, mae'r heriau sy'n ein hwynebu yn gymhleth ac yn faterion brys.

Wrth i ni edrych ymlaen at etholiad y Senedd yn 2026, rydym yn galw ar brifysgolion i fod wrth galon gweledigaeth uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r heriau hyn ac adeiladu Cymru decach a chryfach. 

Tirwedd heriol

Mae ffyniant Cymru yn y dyfodol yn dibynnu ar ein gallu i feithrin talent, ysgogi arloesedd a darparu pobl â'r sgiliau i ffynnu mewn byd sy'n symud yn gyflym. Mae gan brifysgolion rôl hanfodol i'w chwarae, ond nid yw'n gyfrinach ein bod yn gweithredu mewn amgylchedd sy’n mynd yn fwyfwy heriol - o bwysau ariannol ac ansicrwydd gwleidyddol i ddirywiad pryderus yng nghyfranogiad y boblogaeth mewn addysg uwch.

Graddedigion yw asgwrn cefn ein heconomi yn y dyfodol. Er mwyn ymateb i anghenion sgiliau'r dyfodol, amcangyfrifir y bydd angen 400,000 o raddedigion ychwanegol ar Gymru erbyn 2035. Fodd bynnag, rydym yn gweld dirywiad pryderus yng nghanran y bobl 18 oed o Gymru sy'n dewis mynd i'r brifysgol, gyda phobl ifanc Cymru yn sylweddol llai tebygol o fynychu prifysgol na'u cyfoedion mewn rhannau eraill o'r DU.

Rydym yn gwybod bod manteision addysg uwch yn eang a dwfn. Mae graddau’n creu llwybrau at well deilliannau bywyd a boddhad yn y gwaith, tra bod cymunedau â chyfranogiad uwch yn elwa o fwy o ymgysylltiad dinesig, economïau cryfach, a chyfalaf cymdeithasol dyfnach.

Os na lwyddwn i gyfleu rôl hanfodol addysg uwch wrth lunio rhagolygon y dyfodol, rydym mewn perygl o adael y genhedlaeth nesaf yn llai cymwys, a chyda llai o lwybrau i lwyddiant. Mae gwrthdroi'r duedd hon yn hanfodol os ydym am barhau i ddatgloi cyfleoedd a hybu symudedd cymdeithasol. 

Sector trydyddol cydgysylltiedig

Mae'r heriau sy'n ein hwynebu yn parhau i sbarduno dadl ynghylch y ffordd sydd o'n blaenau. Ond gyda rhwystrau daw cyfleoedd, ac os yw prifysgolion am ymdopi â'r heriau hyn, mae angen i ni ymateb, addasu ac arwain mewn ffyrdd newydd. 

Er mwyn ehangu cyfranogiad a chefnogi dysgu gydol oes, mae angen i ni roi'r gorau i feddwl mewn seilos a dymchwel y rhwystrau sy'n arwain darpar fyfyrwyr i gredu nad yw prifysgol "ar gyfer pobl fel fi".

Mae hyn yn gofyn am system lle gall dysgwyr symud yn esmwyth rhwng darparwyr a lle mae dyhead yn cael ei ennyn nid unwaith mewn oes, yn 17 oed, ond yn cael ei feithrin o'r blynyddoedd cynnar a thrwy gydol oes.

Mae creu Medr fel arolygwr cenedlaethol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ôl-16 yn cynnig cyfle prin i integreiddio cynhyrchu sgiliau a gwybodaeth yn fwy cydlynol ar draws y sectorau. Mae'r ymagwedd drydyddol uchelgeisiol hon yn addo llwybrau mwy integredig, ecosystem gryfach ar gyfer dysgu gydol oes, a gwell aliniad rhwng addysg, datblygiad economaidd ac angen cymdeithasol.

I brifysgolion, mae'r newid hwn yn gofyn am ddulliau newydd ac arloesol o gyflwyno. Mae hefyd yn cynnig cyfle i ail-gadarnhau cryfderau dinesig, diwylliannol ac ymchwil addysg uwch fel rhai canolog i ddyfodol Cymru, wrth adeiladu system sgiliau sy'n gosod prifysgolion fel partneriaid allweddol.

Yn erbyn y cefndir hwn, mae'n hanfodol ein bod yn adrodd stori glir a hyderus am werth cyhoeddus prifysgolion ac effeithiau dyddiol ein gwaith.

Llunio'r dyfodol

Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, rhaid i brifysgolion fod ar flaen y gad o ran darparu’r sgiliau, yr ymchwil a’r arloesedd a fydd yn llunio Cymru decach, wyrddach a mwy llewyrchus. Mae ein maniffesto, Prifysgolion ar gyfer Cymru Gryfach, yn nodi gweledigaeth feiddgar ar gyfer sut y gall y sector helpu i gyflawni uchelgeisiau hirdymor y wlad.

Mae ein prifysgolion wedi'u gwreiddio'n ddwfn mewn cymunedau, gan sbarduno twf lleol, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, a siapio'r lleoedd y mae pobl yn byw ac yn gweithio ynddynt. Yn y blynyddoedd i ddod, bydd prifysgolion yn chwarae rhan allweddol wrth adeiladu economi fwy cadarn a sicrhau y gall pobl o bob oed gael mynediad at y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ffynnu. Trwy ddyfnhau partneriaethau â diwydiant, llywodraeth a chymunedau, gallwn gyd-greu datrysiadau i'r heriau mwyaf dybryd - o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd i sbarduno trawsnewid digidol.

I wireddu'r weledigaeth hon, mae angen amgylchedd polisi a chyllido arnom sy'n grymuso prifysgolion i fod yn hyblyg, yn uchelgeisiol, ac wedi'u cysylltu'n fyd-eang. Mae hynny'n golygu buddsoddiad cynaliadwy mewn addysgu ac ymchwil, system reoleiddio gefnogol, a strategaeth drydyddol sy'n cydnabod cyfraniad unigryw prifysgolion i ddyfodol Cymru.

Gweledigaeth feiddgar

Ar adeg pan fo gwerth addysg uwch dan fwy o graffu nag erioed o’r blaen, rhaid i ni ymgysylltu’n adeiladol â llunwyr polisi i gyflwyno’r achos dros addysg uwch, ac yn benodol pwysleisio nad yw addysgu, arloesedd, ymchwil a gwasanaeth cyhoeddus yn flaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd, ond yn hytrach yn sylfeini sector iach sy’n atgyfnerthu ei gilydd.

Yn yr un modd, rhaid i ni weithio ar draws y system drydyddol i sicrhau cydlyniant ac ansawdd i gefnogi ein cenhadaeth ar y cyd: gwasanaethu myfyrwyr, cryfhau cymunedau, a hyrwyddo gwybodaeth er lles y cyhoedd.

Yn bwysicaf oll, mae angen i ni fod yn fwy beiddgar wrth gyflwyno’r achos dros addysg uwch fel ased strategol cenedlaethol, oherwydd ein cyfrifoldeb ni yw mynegi gweledigaeth hyderus ar gyfer rôl y sector yn ein bywyd cenedlaethol; gweledigaeth sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth, cydweithio a meddwl hirdymor. 

Mae hwn yn gyfnod hollbwysig i'n prifysgolion, ac i'r genedl. Fel Cadeirydd Prifysgolion Cymru, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws y sector a chyda Llywodraeth nesaf Cymru i sbarduno cyfnod o adnewyddu cenedlaethol i Gymru, gan fynd i'r afael â heriau heddiw a llunio atebion ar gyfer yfory.