Cyllid newydd i gryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd mewn plismona ledled Cymru
Mae Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru-Gyfan (AWPAC), gyda chymorth Rhwydwaith Arloesedd Cymru (RhAC), wedi lansio eu galwad am geisiadau ar gyfer 2026 i gefnogi ymchwil gydweithredol newydd rhwng academyddion a phartneriaid plismona ledled Cymru.
9 Hydref 2025
Mae'r trefniant cydweithredol yn dwyn ynghyd brifysgolion Cymru a phob un o bedwar heddlu Cymru, gan annog ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth â’r nod o wella arferion plismona. Mae galwad eleni yn canolbwyntio ar y thema flaenoriaeth o gynyddu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn plismona, gan wahodd cynigion a all gyflawni effaith ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ledled Cymru.
Mae AWPAC wedi ymrwymo £80,000 i gefnogi hyd at bedwar prosiect cydweithredol dwy-flynedd, pob un yn derbyn cyfanswm o £20,000 (£10,000 y flwyddyn). Mae'r cyllid wedi'i fwriadu ar gyfer prosiectau ar raddfa fach a all gyflawni effaith ystyrlon ac ymarferol, a rhaid iddynt ddangos cynllun clir ar gyfer sut y bydd canfyddiadau'n cael eu trosi'n ymarfer. Rhaid i brosiectau hefyd ddangos dull cydweithredol Cymru-gyfan, gyda manteision sy'n ymestyn y tu hwnt i un sefydliad neu heddlu.
Mae galwad 2026 yn adeiladu ar fomentwm portffolio ymchwil cyfredol AWPAC, sydd eisoes yn cynnwys tri phrosiect sy'n mynd i'r afael â thema ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn plismona.
Mae un o’r prosiectau hyn, Canfyddiadau a phrofiad y cyhoedd o Adran 1 Atal ac Archwilio yng Nghymru, yn dwyn ynghyd Brifysgol Bangor, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Heddlu a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chydweithfa Gweithredu Cyfoedion Cymru. Mae'r prosiect hwn yn archwilio agweddau a phrofiadau'r cyhoedd o Atal ac Archwilio yng Nghymru a sut mae'r rhain yn dylanwadu ar ymddiriedaeth a hyder mewn plismona.
Mae Gwella arfer yr heddlu sy'n seiliedig ar drawma, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru, Prifysgol De Cymru, a'r Include Hub, yn canolbwyntio ar wella sut mae plismona'n ymwneud â phobl yr effeithiwyd arnynt gan drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Mae prosiect arall, Gostyngiad mewn ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu: Archwilio'r bwlch rhwng y cenedlaethau, yn cael ei arwain gan Brifysgol De Cymru mewn cydweithrediad â Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gwent, Heddlu De Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Tîm Llais Ieuenctid Cymru, a Senedd Ieuenctid Cymru. Ei nod yw canfod strategaethau ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i ailadeiladu ymddiriedaeth mewn plismona ymhlith pobl ifanc a llywio polisi ac arfer yn y dyfodol ledled Cymru.
Mae ceisiadau ar gyfer 2026-2028 bellach ar agor, a rhaid eu cyflwyno erbyn dydd Gwener 30ain Ionawr 2026. Bydd prosiectau llwyddiannus yn dechrau ar 1af Ebrill 2026 ac yn parhau tan 31ain Mawrth 2028.
Gellir lawrlwytho ffurflenni cais yma a'u hanfon drwy e-bost at innovation.network@uniswales.ac.uk erbyn y dyddiad cau.