Llunio dyfodol plismona sy'n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru
Mae uwch arweinwyr yr heddlu, academyddion, llunwyr polisi a phartneriaid cymunedol yn ymgynnull heddiw ym Mhrifysgol Wrecsam ar gyfer Symposiwm Ymchwil 2025 Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru-Gyfan (AWPAC) – menter arloesol sy’n gweithio i wella plismona yng Nghymru.
18 Medi 2025
Gyda chefnogaeth gan Rwydwaith Arloesi Cymru, mae AWPAC wedi dod yn rym ar gyfer ysgogi plismona sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan gyflawni effaith yn y byd go iawn trwy ymchwil ac arloesi cydweithredol. Bydd y symposiwm heddiw yn dathlu cyflawniadau'r bartneriaeth hyd yma ac yn darparu llwyfan i archwilio gweithgaredd ymchwil yn y dyfodol, gyda ffocws allweddol ar un o'r heriau mwyaf dyrys sy'n wynebu plismona heddiw: ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd.
Mae'r agenda'n cynnwys cyfraniadau allweddol gan Brif Arolygydd Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi, Syr Andy Cooke QPM DL, a'r Athro Betsy Stanko OBE, ochr-yn-ochr â chyflwyniadau gan ymchwilwyr PhD sy'n archwilio canfyddiadau'r cyhoedd o blismona yn ystod y pandemig ac ymhlith y rhai sy’n ddigartref ar y stryd.
Fel rhan o'u gwaith eleni, mae AWPAC wedi ariannu tri phrosiect ymchwil sy'n adlewyrchu'r ffocws hwn ar ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd:
Canfyddiadau a phrofiad y cyhoedd o Adran 1 - Atal ac Archwilio yng Nghymru
Partneriaid y prosiect: Prifysgol Bangor, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Heddlu a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chydweithfa Cyfoedion Cymru.
Mae'r prosiect hwn yn archwilio ymagweddau a phrofiadau'r cyhoedd o Adran 1 - Atal ac Archwilio yng Nghymru a'i effaith ar ymddiriedaeth a hyder mewn plismona. Trwy ddadansoddi data, ymgysylltu â chymunedau, a chyd-gynhyrchu argymhellion ymarferol, bydd yr ymchwil yn ffurfio sail i ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, hyfforddiant, ac arfer yn y dyfodol i gryfhau'r berthynas rhwng yr heddlu a'r cyhoedd ac adeiladu fframwaith cynaliadwy ar gyfer cydweithio parhaus.
Gwella arfer sy'n seiliedig ar drawma'r heddlu
Partneriaid y prosiect: Prifysgol Abertawe, Heddlu De Cymru, Prifysgol De Cymru, a The Include Hub.
Trwy weithio gyda chymunedau ar gyrion cymdeithas sydd wedi’u heffeithio gan drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, nod yr ymchwil yw gwella dealltwriaeth, meithrin ymddiriedaeth, a hybu newidiadau parhaol mewn arferion a pholisi plismona. Bydd y prosiect yn cyd-greu modiwl hyfforddiant sy'n seiliedig ar drawma ar gyfer swyddogion heddlu yng Nghymru, gan gynorthwyo â datblygiad dull system gyfan.
Gostyngiad mewn ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu: Archwilio'r bwlch rhwng y cenedlaethau
Partneriaid y prosiect: Prifysgol De Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gwent, Heddlu De Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Tîm Llais Ieuenctid Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru.
Mae'r prosiect hwn yn ymchwilio i pam mae ymddiriedaeth a hyder mewn plismona yn y DU yn dirywio, yn enwedig ymhlith Cenhedlaeth Z. Trwy nodi'r ffactorau sy'n achosi'r bwlch hwn rhwng y cenedlaethau a datblygu strategaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, bydd yr ymchwil yn cynorthwyo heddluoedd Cymru i wella hyder y cyhoedd, llunio polisi ac arfer yn y dyfodol, a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiadau pobl ifanc o'r heddlu.
Dywedodd yr Athro Martina Feilzer, Cyd-gadeirydd AWPAC:
“Rydym wrth ein bodd yn dod â chydweithwyr o’r heddlu, y byd academaidd, a chymunedau ynghyd heddiw i ddathlu cyflawniadau AWPAC ac i edrych ymlaen gydag uchelgais. Mae'r prosiectau rydyn ni wedi'u hariannu eleni yn adlewyrchu penderfyniad cyffredin i fynd i'r afael ag un o'r heriau mwyaf dybryd sy'n wynebu plismona - cynyddu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd. Trwy weithio ar y cyd ledled Cymru, rydym yn cynhyrchu'r wybodaeth, y dystiolaeth a'r partneriaethau sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol.”
Meddai’r Ditectif Brif Uwch-arolygydd Dros-dro Ross Evans, Cyd-gadeirydd AWPAC:
“Mae ymddiriedaeth a hyder wrth galon plismona effeithiol, ac mae eu cryfhau yn flaenoriaeth glir i heddluoedd ledled Cymru. Trwy AWPAC rydym yn harneisio'r gorau o fewnwelediad academaidd a phrofiad rheng-flaen i lunio datrysiadau ymarferol sy'n gwneud gwahaniaeth i gymunedau. Mae symposiwm heddiw yn gyfle i arddangos y cydweithio hwnnw, dathlu'r cynnydd rydym wedi'i wneud, a gosod y cyfeiriad ar gyfer gwaith yn y dyfodol a fydd yn helpu i sicrhau bod plismona yng Nghymru yn deg, yn dryloyw, ac yn wasanaeth y gall pawb yn ymddiried ynddo.”