
Datganiad Prifysgolion Cymru ar Ddiwrnod Canlyniadau Safon Uwch 2025
Ar ddiwrnod canlyniadau Lefel-A, dywedodd Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru:
13 Awst 2025
“Llongyfarchiadau i bawb sy’n cael eu canlyniadau heddiw.
“Dylai’r myfyrwyr fod yn falch o’r hyn y maent wedi’i gyflawni a gallant edrych ymlaen nawr at y cam nesaf ar eu taith. I lawer, bydd hynny’n golygu astudio mewn prifysgol.
“Mae cyfnod prifysgol yn gallu bod yn un sy’n trawsnewid bywydau, gan agor drysau a chyfleoedd sy’n gallu newid bywydau dysgwyr. Gall myfyrwyr sy’n ymuno ag un o brifysgolion Cymru yn yr hydref edrych ymlaen at gael profiad prifysgol o’r radd flaenaf a fydd yn rhoi boddhad ac yn eu cynorthwyo i gyflawni eu dyheadau a gwireddu eu potensial.
“Ar gyfer y rhai sy’n dal heb benderfynu ar eu cam nesaf neu rai na chafodd y canlyniadau roedden nhw’n gobeithio eu cael, mae llawer o opsiynau ar gael yng Nghymru drwy’r broses glirio. Mae cynghorwyr yn ein prifysgolion yn aros i roi cyngor i ddarpar fyfyrwyr ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw.”
Mae cyngor pellach ar gael gan UCAS. Gallwch gysylltu â’r canolfannau clirio ar gyfer prifysgolion yng Nghymru trwy ddefnyddio'r dolenni isod:
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Nid yw’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gweithredu canolfan glirio. Mae cofrestru ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau fis Hydref 2025 yn cau ar 11 Medi 2025.