Prifysgol Wrecsam

Rhwydwaith cydweithredol yw AWPAC (Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan) sy'n ymroddedig i hyrwyddo ymchwil plismona ledled Cymru. Gan adeiladu ar lwyddiant partneriaethau lleol rhwng heddluoedd a phrifysgolion, mae AWPAC yn darparu trefniant mwy eang, gan ddod â phob un o bedwar heddlu Cymru, swyddfeydd y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu, a phob prifysgol yng Nghymru ynghyd. Gyda chefnogaeth Rhwydwaith Arloesedd Cymru (RhAC), mae AWPAC yn hwyluso ymgysylltiad effeithiol rhwng heddluoedd Cymru a phrifysgolion i gynnal ymchwil sy'n cael effaith gadarnhaol ar gymunedau ledled Cymru.

Ar hyn o bryd, mae gwaith AWPAC yn canolbwyntio ar gynyddu hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn plismona. I gefnogi'r nod hwn, mae tri phrosiect ymchwil wedi cael eu hariannu'n ddiweddar i fynd i'r afael â heriau o'r fath.

Mae'r symposiwm ymchwil hwn yn cynnig cyfle i ddod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd i:

  • Arddangos dull cydweithredol AWPAC
  • Dathlu cyflawniadau'r grŵp
  • Archwilio gweithgaredd yn y dyfodol i gefnogi hyder a ffydd gynyddol y cyhoedd mewn plismona

Bydd y digwyddiad yn cynnwys areithiau allweddol gan:

  • Syr Andy Cooke OBE, Prif Arolygydd Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi
  • Yr Athro Elizabeth Stanko OBE, cyn Bennaeth Tystiolaeth a Mewnwelediad yn Swyddfa Plismona a Throseddu Maer Llundain

Bydd y naill siaradwr a’r llall yn myfyrio ar ddiwylliant ac ymddygiad yr heddlu, a rôl hanfodol cydweithio rhwng y byd academaidd a phlismona.

Bydd cyfle hefyd i’r rhai sy’n mynychu gysylltu â chydweithwyr o bedair Swyddfa Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru, clywed gan ymchwilwyr PhD sy’n canolbwyntio ar ymddiriedaeth a hyder mewn plismona, yn ogystal â dysgu am y cyfleoedd ar gyfer cyllido sydd ar gael.

Dyddiad: Dydd Iau 18fed Medi 2025

Amser: 11am – 3:15pm (Cofrestru o 10:30am)

Lleoliad: Prifysgol Wrecsam, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam LL11 2AW Dolen gofrestru: https://forms.office.com/e/bXyv9BkcWs

Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: Dydd Gwener 5ed Medi 2025