Mae PTG, a ariennir ar y cyd gan Innovate UK a'r busnes neu'r sefydliad partner, wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â heriau penodol trwy drosglwyddo gwybodaeth, technoleg ac arbenigedd o'r partner academaidd i'r busnes neu'r sefydliad.
Mae'r sesiwn hon yn cynnig y cyfle i glywed yn uniongyrchol gan fusnesau a phartneriaid academaidd sy'n ymwneud â Phartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth ar hyn o bryd, yn ogystal â gan gynrychiolwyr Innovate UK sy'n rhannu straeon llwyddiant a chyfleoedd ar gyfer cyllido. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn tynnu sylw at ffyrdd o gefnogi busnesau, mudiadau’r trydydd sector, cyrff y sector cyhoeddus, a sefydliadau ymchwil i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd trwy wahanol ffrydiau cyllido - gan gynnwys rhaglen Cymorth Arloesi Hyblyg SMART.
Yn olaf, bydd cyfle i ofyn cwestiynau a thrafod heriau busnes posibl lle gellid darparu cefnogaeth trwy benodi unigolyn graddedig â chymwysterau uchel iawn i weithredu datrysiadau arloesol.
I gofrestru, dilynwch y ddolen isod. Anfonir cyfarwyddiadau ymuno cyn y gweithdy.
Dyddiad: Dydd Mercher 12fed Tachwedd 2025
Amser: 10 – 11:30am
Platfform: Microsoft Teams
Dolen gofrestru: https://forms.office.com/e/k312hS9DCc
Terfyn amser ar gyfer cofrestru: Dydd Mercher 5ed Tachwedd 2025