
Mae diddordeb rhyngwladol ym mhrifysgolion Cymru ar gynnydd
Mae data newydd yn cadarnhau bod buddsoddi mewn addysg ryngwladol yn dwyn ffrwyth, gyda'r brand Astudio yng Nghymru yn sbarduno twf sylweddol mewn ymwybyddiaeth fyd-eang a diddordeb yng Nghymru fel cyrchfan astudio.
16 Mehefin 2025
Mae gwerthusiad annibynnol o Astudio yng Nghymru – a gyflwynir trwy raglen Cymru Fyd-eang – yn dangos bod buddsoddiad wedi’i dargedu yn cyflawni canlyniadau pendant i sector addysg ryngwladol Cymru.
Rhwng 2022 a 2025:
- Fe wnaeth nifer y darpar fyfyrwyr rhyngwladol sy'n gyfarwydd â Chymru fwy na dyblu, gan godi o 21% i 44%.
- Cynyddodd diddordeb ymysg myfyrwyr o India o 18% i 32%.
- Gwnaeth diddordeb gan fyfyrwyr o’r Unol Daleithiau fwy na dyblu, o 14% i 32%.
- Dywedodd 76% o fyfyrwyr a oedd wedi gweld hysbysebion Astudio yng Nghymru eu bod yn fwy tebygol o ystyried astudio yng Nghymru.
- Roedd darpar fyfyrwyr yn aml yn disgrifio Cymru fel lle 'hardd', 'croesawus' a 'chyffrous'.
Mae'r cynnydd hwn mewn ymwybyddiaeth a diddordeb wedi’i wireddu ar ffurf effaith yn y byd go iawn. Yn ôl data HESA, Cymru a welodd y twf uchaf yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol yn y DU rhwng 2020/21 a 2023/24, gan berfformio'n well na gweddill y DU mewn marchnadoedd blaenoriaeth fel India ac UDA.
Mae'r llwyddiant hwn wedi'i gyflawni trwy fuddsoddiad strategol, wedi'i dargedu. Mae dyraniad diweddar gan Lywodraeth Cymru o £500,000 pellach i Gymru Fyd-eang ar gyfer blwyddyn bontio, yn adeiladu ar hanes profedig o sicrhau gwerth am arian, gan gefnogi prifysgolion a cholegau i hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd.
Fodd bynnag, yn dilyn newidiadau mewn rheolau Fisa a gyhoeddwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU yn 2023, disgwylir i brifysgolion ledled y DU, gan gynnwys y rhai sydd yng Nghymru, weld dirywiad sylweddol mewn recriwtio rhyngwladol pan gyhoeddir ffigurau 2024/25.
Dywedodd Tom Woodward, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Rhyngwladol Prifysgolion Cymru:
“Mae myfyrwyr rhyngwladol yn chwarae rhan hynod bwysig yn ein sefydliadau ac yn ein cymunedau, ac mae'n wych gweld mwy o ddarpar fyfyrwyr yn ystyried Cymru fel cyrchfan astudio bosibl.
“Trwy frand Astudio yng Nghymru, mae Cymru Fyd-eang wedi codi proffil rhyngwladol prifysgolion Cymru, wedi cryfhau partneriaethau byd-eang, ac wedi helpu sefydliadau i gydweithio er mwyn arddangos y gorau o Gymru. Mae'r cynnydd mewn cydnabyddiaeth ryngwladol yn ganlyniad uniongyrchol i'r dull cydweithredol hwn.
“Mae gweithgaredd rhyngwladol ein prifysgolion o bwys hanfodol i berfformiad economaidd Cymru yn y dyfodol a’i chysylltiadau byd-eang. Gyda'r sector bellach yn wynebu anawsterau sylweddol oherwydd newidiadau polisi fisa ledled y DU a gyflwynwyd yn 2023, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn parhau i adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan Gymru Fyd-eang, ac yn cadarnhau enw da Cymru fel cyrchfan astudio gyffrous, groesawgar ac o ansawdd uchel.”