Fel Cyd-Gadeirydd Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru (WAHA), roeddwn yn falch iawn o fynychu digwyddiadau ym Mrwsel ar 5–6 Mawrth 2025, i ddathlu ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau yng Nghymru. Roedd wyth prosiect Celfyddydau a Dyniaethau rhagorol, gyda chefnogaeth gan Rwydwaith Arloesedd Cymru (RhAC), yn arddangos eu hymchwil ar thema treftadaeth ddiwylliannol gynaliadwy. Trefnwyd y digwyddiad gan Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB) gyda chefnogaeth gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), ac roedd y prosiectau - un o bob prifysgol yng Nghymru – yn rhoi cyfle i ymchwilwyr WAHA gwrdd â chymheiriaid Ewropeaidd sydd â diddordeb mewn treftadaeth ddiwylliannol ac i rannu ymchwil a allai arwain at geisiadau am arian ar y cyd a phartneriaethau Ewropeaidd newydd.

Ar 5ed Mawrth, daeth tua 60-70 o westeion allanol i’r arddangosfa yn adeilad hardd Pwynt Gwybodaeth Brwsel. Roedd y rhain yn cynnwys rhwydweithiau treftadaeth ddiwylliannol, sefydliadau ymchwil, cynrychiolwyr y llywodraeth, cynrychiolwyr prifysgolion a swyddfeydd rhanbarthol. Siaradodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, a’r Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe a Chadeirydd Prifysgolion Cymru, am ymrwymiad Cymru i weithio mewn partneriaeth agos ag ymchwilwyr Ewropeaidd i ymestyn cyrhaeddiad ymchwil Cymru. Siaradodd Irene Norstedt, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Planed, Pobl a Gwyddoniaeth ar gyfer Polisi, y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol er Ymchwil ac Arloesedd, am raglen newydd Horizon Europe 'Partneriaeth mewn Treftadaeth Ddiwylliannol Gydnerth’ sydd i fod dechrau yn 2026 ac yn para tan 2032. Darparodd y digwyddiad proffil-uchel hwn lwyfan gwerthfawr i brosiectau WAHA a’u timau prifysgol i adeiladu partneriaethau ar gyfer galwadau cyllido sydd i ddod o amgylch y thema hon.

Yna ar 6ed Mawrth, cynhaliwyd gweithdy ar gyllido Ewropeaidd, gan ganolbwyntio ar werth ymuno â COST Actions, a’r cyfleoedd o fewn thema Clwstwr 2 Horizon Europe ‘gwireddu potensial llawn treftadaeth ddiwylliannol, y celfyddydau a’r sectorau diwylliannol a chreadigol’. Gosododd cyflwyniadau gan gydweithwyr ym Mhrifysgol Antwerp a Phrifysgol Aberystwyth y naws a’r uchelgais ar gyfer cydweithredu Ewropeaidd mewn treftadaeth ddiwylliannol gynaliadwy – cryfder ymchwil yng Nghymru.

Daeth WAHA â’i grym ymgynnull i’r digwyddiad, gan gynorthwyo â’r dewis o brosiectau ar gyfer yr arddangosfa a gweithio gyda chydlynwyr digwyddiadau yn WHEB. Darparodd cydweithwyr WHEB gefnogaeth arobryn i'r digwyddiad, gyda diolch arbennig i Catherine Marston. Hoffem hefyd ddiolch yn ddiffuant i Dr Jamie Davies, Uwch Reolwr Partneriaethau Rhyngwladol yn AHRC, am ei arweiniad, ei anogaeth a’i gefnogaeth i arbenigedd a dynameg sylfaen ymchwil y celfyddydau a dyniaethau yng Nghymru. Diolch i bawb am ddigwyddiad gwych!

Cefnogwyd y digwyddiad â chyllid Cymru Ystwyth gan Lywodraeth Cymru.