
clear_pixel VR
Wedi'i sefydlu gan raddedigion Prifysgol De Cymru, Jake Spanswick a Quinn Byron-Dyer, mae clear_pixel VR yn gwmni technoleg rhith-realiti sy'n arbenigo mewn hyfforddiant gwyddoniaeth fiofeddygol.
Mae'r cwmni'n datblygu modiwlau VR trochi ar gyfer prifysgolion a sefydliadau ymchwil, gan ganolbwyntio ar drin anifeiliaid yn foesegol, technegau labordy, a hyfforddiant niwrowyddoniaeth.
Mae clear_pixel VR hefyd yn cynnig creu cynnwys VR pwrpasol ar sail ffi-am-wasanaeth, ac mae'n ehangu i waith asiantaeth VR, gan adeiladu amgylcheddau 3D rhyngweithiol ar gyfer gwerthu a marchnata.
Graddiodd y sylfaenwyr Jake a Quinn ill dau gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Datblygu Gemau o Brifysgol De Cymru. Gyda chefndir cryf mewn cyfryngau rhyngweithiol a thechnoleg 3D gydamserol, fe wnaethant gyfuno eu harbenigedd mewn datblygu gemau ac amgylcheddau trochi i greu datrysiadau hyfforddiant VR arloesol.
“Mae’r gefnogaeth i raddedigion ar gyfer busnesau bach newydd ym Mhrifysgol De Cymru yn fan cychwyn gwych i fyfyrwyr sydd am feithrin y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i droi eu syniadau yn fusnesau hyfyw.
“Trwy’r gefnogaeth hon y gosodwyd sylfeini ein busnes ar ôl gadael y brifysgol, gan drawsnewid ein hangerdd am dechnoleg drochi yn gwmni sydd bellach yn gweithredu ar raddfa fyd-eang.”