Mae ysgol goedwig Maria, sydd wedi’i lleoli ym Mrynaman, ger Rhydaman, yn mynd â phlant o bob oed allan o’u hystafelloedd ddosbarth confensiynol ac yn eu trochi yn rhyfeddodau byd natur, gan ddarparu dull unigryw o ddysgu.

“Mae’r gefnogaeth a gefais gan PCyDDS wedi bod yn allweddol i’m taith academaidd ac entrepreneuraidd. 

“Mae’r agwedd ymarferol, byd go-iawn at ddysgu, ynghyd â’r gymuned glos ar gampws Caerfyrddin, wedi rhoi sylfaen gref i mi ddilyn fy nghwrs TAR a pharhau i dyfu fy musnes.”