Mae menter gydweithredol a sefydlwyd i gryfhau ymchwil ac arloesedd yng Nghymru heddiw yn dangos effaith drawsnewidiol y gwaith hwnnw. Mae’r adroddiad effaith cyntaf gan Rwydwaith Arloesi Cymru (RhAC) yn datgelu bod prosiectau a gefnogir gan RhAC wedi llwyddo i ddenu dros £38 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol, sef 19 gwaith y buddsoddiad gwreiddiol, gan gefnogi ymchwil arloesol sy’n cryfhau economi Cymru, yn hybu cynaladwyedd ac yn gwella llesiant y cyhoedd.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at waith pwysig prifysgolion Cymru wrth ysgogi cynnydd ac arloesedd ar draws sectorau allweddol. O fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a diogelwch bwyd i gryfhau gwydnwch iechyd a thrawsnewid digidol, mae ymchwil o Gymru yn mynd i’r afael â heriau byd-eang tra’n sicrhau buddion diriaethol i gymunedau ledled y wlad.

  • Sicrhaodd Prifysgol Aberystwyth, mewn cydweithrediad â nifer o bartneriaid, dros £5 miliwn i sefydlu Partneriaeth Arloesedd Polisi Lleol Cymru Wledig – menter arloesol yn seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi datblygiad economaidd a chymdeithasol gwledig, gan sicrhau bod cymunedau yng Nghymru’n ffynnu. Bydd y prosiect yn darparu mewnwelediadau ymchwil newydd, yn ymgysylltu cymunedau mewn datrysiadau wedi’u cyd-gynllunio, ac yn llywio fframweithiau polisi’r dyfodol sy’n sbarduno twf economaidd a chynaladwyedd yn y Gymru wledig.
  • Mae menter Un Iechyd Cymru Prifysgol Bangor yn integreiddio iechyd dynol, anifeiliaid ac amgylcheddol i fynd i'r afael â heriau iechyd cyhoeddus dybryd. Gyda thros £5 miliwn o fuddsoddiad gan ddiwydiant wedi’i sicrhau trwy gydweithrediad a gefnogwyd gan RhAC, mae’r prosiect hwn yn arloesi gyda dulliau newydd o atal clefydau, cynaladwyedd amgylcheddol, a gwydnwch gofal iechyd. Mae'n adlewyrchu ymrwymiad Cymru i strategaethau iechyd cyfannol sy'n amddiffyn pobl a'r blaned.
  • Cefnogodd Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan RhAC (AWPAC) brosiect ar y cyd rhwng y Brifysgol Agored a Phrifysgol De Cymru, sy'n chwarae rhan hanfodol wrth lunio polisïau plismona ar gam-drin domestig o fewn gorfodi'r gyfraith. Mae’r ymchwil wedi archwilio sut mae heddluoedd Cymru yn ymateb i gam-drin domestig a thrais rhywiol a gyflawnir gan yr heddlu, gan nodi meysydd allweddol i’w gwella. Mae'r gwaith hwn yn dylanwadu ar drafodaethau yng Nghyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ac mae ganddo'r potensial i ysgogi newid sylweddol mewn arferion diogelu a chyfiawnder ledled Cymru a thu hwnt.

Yn gynharach heddiw, ymgasglodd llunwyr polisi, arweinwyr diwydiant, ac academyddion, yn y Senedd i ddathlu’r effaith y mae ymchwil ac arloesedd yng Nghymru yn ei chael ar draws ystod eang o feysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru. Cafodd y mynychwyr gyfle i ddysgu am rywfaint o’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud gan brifysgolion yng Nghymru a chlywed y canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd trwy gyllid RhAC. Dangoswyd nid yn unig y llwyddiannau diriaethol a gyflawnwyd, ond hefyd y potensial ar gyfer datblygiadau hyd yn oed yn fwy wrth i ymchwil yng Nghymru barhau i dyfu ac esblygu.

Wedi’i noddi gan Rebecca Evans ASC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni, a Chynllunio, gyda mewnwelediadau gan yr Athro Roger Whitaker, Cadeirydd RhAC a Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd, a’r Athro David Sweeney, Dirprwy Gadeirydd Medr, atgyfnerthodd y digwyddiad bwysigrwydd buddsoddiad parhaus mewn ymchwil i ysgogi twf economaidd, cynaladwyedd a chynnydd cymdeithasol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

“Rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant o arloesedd yng Nghymru, sy’n hyrwyddo ymchwil a chydweithredu fel ffordd o wella bywydau pobl.

“Mae Rhwydwaith Arloesi Cymru’n enghraifft ardderchog o sut i gydweithio ac arloesi, gyda phrosiectau’n denu swm o arian sydd 19 gwaith yn fwy na’r buddsoddiad gwreiddiol Mae’r arian hwn wedi galluogi nifer o brosiectau a mentrau yng Nghymru i ymestyn a llwyddo, sy’n cyd-fynd - yn holl bwysig - â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

“Roedd yn wych croesawu llawer o ymchwilwyr ac arloeswyr dawnus i’r Senedd i arddangos eu gwaith fel rhan o’r fenter drawiadol hon.”

Meddai'r Athro David Sweeney CBE, Dirprwy Gadeirydd Medr:

“Mae Rhwydwaith Arloesi Cymru wedi sefydlu ei hun fel rhan hanfodol o'r ecosystem ymchwil ac arloesedd. Gan ddod â'n prifysgolion ynghyd tra'n harneisio eu cryfderau unigryw, mae RhAC wedi galluogi'r sector i gymryd mantais o gyfleoedd gwell a mwy niferus nag y gallai sefydliadau'n gweithio ar eu pen eu hunain. Mae Medr wedi gosod uchelgeisiau i dyfu ymchwil sy'n uchel ei barch yn rhyngwladol ac i ysbrydoli arloesedd trwy'r sector trydyddol, a gallwn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda RhAC i'n helpu i gyflawni hyn.”

Dywedodd yr Athro Roger Whitaker, Cadeirydd Rhwydwaith Arloesi Cymru a Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd:

“Mae’r straeon llwyddiant a amlygwyd yn adroddiad effaith RhAC yn dangos pŵer trawsnewidiol arloesedd a’r rôl hanfodol y mae RhAC yn ei chwarae wrth ysgogi rhagoriaeth mewn ymchwil. Trwy feithrin partneriaethau a sicrhau dros £38 miliwn o gyllid ychwanegol, mae RhAC yn cael effaith wirioneddol - gan gryfhau'r economi, cefnogi busnesau, a sicrhau bod prifysgolion Cymru’n parhau i fod ar flaen y gad o ran ymchwil fyd-eang.

“Mae’n fwy na chyllido yn unig; mae RhAC yn creu amgylchedd lle gall prifysgolion Cymru arwain darganfyddiadau arloesol, cydweithio â diwydiant, a chyfrannu at ddatrys rhai o heriau mwyaf enbyd y byd. Rydym yn hynod falch o’r cyflawniadau a amlygwyd yn yr adroddiad hwn ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo ymchwil ac arloesedd ledled Cymru.”