Mae eu datrysiadau trochi yn manteisio ar dechnoleg uwch i greu profiadau deniadol, rhyngweithiol a hynod realistig sy'n ysgogi dysgu, arloesedd a datrys problemau.

Mae Imersifi wedi cydweithio â phrifysgolion a sefydliadau ymchwil blaenllaw, yn ogystal â mentrau byd-eang, gan gynnwys Google, GSK a’r GIG, i ddatblygu datrysiadau XR (Realiti Estynedig) pwrpasol. 

Ar hyn o bryd mae tîm Imersifi yn datblygu Llwyfan Imersifi, gyda chymorth grant sylweddol gan Lywodraeth Cymru.

“Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn allweddol wrth ein cysylltu ag academyddion a diwydiant, gan feithrin partneriaethau sydd wedi arwain at gyflawni llawer o brosiectau yn llwyddiannus. Mae’r Brifysgol yn parhau i gefnogi Imersifi wrth i ni dyfu, ac rydym yn rhan annatod o strategaeth a defnydd technoleg trochi Prifysgol Abertawe.”