
Cytunwyd ar Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 o flaen y Senedd
Ddydd Mawrth 4 Mawrth, cytunwyd ar Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 o flaen y Senedd. Mewn ymateb i'r gyllideb, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgolion Cymru:
5 Mawrth 2025
“Er bydd cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn darparu cymorth tymor byr defnyddiol i’r sector, nid yw cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 yn darparu y lefel o gyllid sydd ei angen i mewn i’r flwyddyn academaidd nesaf.
Heb gymorth ychwanegol, mae’n debygol y bydd y sector angen gwneud penderfyniadau anodd pellach.”