
Mae ceisiadau o Gymru i brifysgolion yn parhau i ostwng
Mae ffigurau newydd UCAS a gyhoeddwyd heddiw yn dangos gostyngiad parhaus a phryderus yng nghyfran y bobl yng Nghymru sy’n dewis gwneud cais i brifysgol.
13 Chwefror 2025
Yn eu data ymgeiswyr erbyn y dyddiad cau ar gyfer Ystyriaeth Gyfartal yn Ionawr, datgelodd Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS) fod cyfran y bobl ifanc 18 oed o Gymru sy’n gwneud cais i brifysgolion yn y DU wedi parhau i ddisgyn. Mae hyn ochr-yn-ochr â gostyngiad mewn ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn yng Nghymru.
- Cymru sydd â'r gyfran isaf o bobl ifanc 18 oed sy'n gwneud cais am le mewn prifysgol yn y DU.
- Dim ond 32% o Gymry 18 oed sydd wedi gwneud cais i brifysgol eleni o gymharu â 33.2% y llynedd. Mae hyn yn peri pryder arbennig o'i gymharu â'r DU gyfan, lle mae'r ffigur yn 40.6%.
- Mae’r ffigurau’n dangos bwlch cyfranogiad cynyddol rhwng y myfyrwyr lleiaf a mwyaf breintiedig yng Nghymru. Mae cyfran y bobl ifanc 18 oed sy'n gwneud cais o Ch1 Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru wedi gostwng i 20.1%, tra bod y rhai o Ch5 wedi cynyddu 0.3%. Mae myfyrwyr difreintiedig yng Nghymru hefyd yn llai tebygol o fynd i brifysgol, o gymharu â rhannau eraill o'r DU
- Mae ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn yng Nghymru hefyd wedi parhau i ostwng, yn enwedig yn y grŵp oedran 25-34. Mae gan Gymru bellach y niferoedd lleiaf o fyfyrwyr hŷn sy'n gwneud cais i brifysgol nag ar unrhyw adeg yn y degawd diwethaf.
Os nad eir i'r afael â’r sefyllfa, bydd i’r gostyngiad hwn yn nifer y bobl sy'n mynychu'r brifysgol oblygiadau hirdymor i ffyniant y wlad yn y dyfodol a'r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr heddiw a’r cenedlaethau sydd i ddod.
Tynnodd Prifysgolion Cymru sylw at bryderon ynghylch gostyngiad mewn cyfraddau cyfranogiad yn eu tystiolaeth i ymchwiliad diweddar Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd i lwybrau addysg a hyfforddiant ôl-16.
Ac mae’n mynd y tu hwnt i’n prifysgolion, gyda Chymru’n gweld cwymp brawychus yn nifer y bobl sy’n aros mewn addysg ôl-16 llawn-amser. Mae cyfraddau cyfranogiad Safon Uwch yng Nghymru’n sylweddol is nag yn Lloegr, gyda dim ond 33% o bobl ifanc yn astudio Lefel A o gymharu â 47% yn Lloegr. Mae llai o bobl ifanc 16 oed yn dilyn Lefel A yn golygu bod llai o fyfyrwyr yn symud i addysg uwch ac yn cael y swyddi sgiliau uwch y bydd eu hangen ar economi Cymru i ffynnu.
Mae hefyd yn golygu bod unigolion ar eu colled o ran y buddion trawsnewidiol y gall addysg prifysgol eu darparu – gan gynnwys hwb sylweddol i gyflog, lefelau cyflogaeth a rhagolygon gyrfa gydol oes. Mae hyn yn peri pryder arbennig yng ngoleuni’r bwlch cyfranogiad cynyddol rhwng y lleiaf a’r mwyaf breintiedig, gan fod y data’n dangos bod manteision prifysgol yn arbennig o arwyddocaol i bobl o gefndiroedd difreintiedig.
Meddai Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, Amanda Wilkinson:
“Mae tystiolaeth glir a chyson bellach bod llai o bobl yng Nghymru’n ymwneud ag addysg y tu hwnt i oedran addysg orfodol, sef 16 - a llai yn mynd i brifysgol nag ar unrhyw adeg yn y degawd diwethaf.
“Mae hon yn sefyllfa sy’n peri cryn bryder, a fydd â goblygiadau hirdymor i Gymru. Mae’r diwydiannau a fydd yn sbarduno ein twf economaidd yn y degawdau i ddod yn dibynnu’n helaeth ar raddedigion. Os nad yw pobl Cymru’n ennill y sgiliau hyn, bydd economi Cymru yn cael ei hun dan anfantais economaidd o gymharu â gweddill y DU, lle bydd cyfran y graddedigion yn y gweithlu yn uwch.
“Ond nid ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus yn unig fydd yn cael eu heffeithio. Bydd hefyd yn arwain at ddiffyg cyfleoedd i’r bobl a fyddai’n elwa o’r profiad trawsnewidiol sydd ar gael yn y brifysgol. Mae’r sefyllfa anffodus hon yn cyflwyno’r posibilrwydd gwirioneddol y bydd cenedlaethau o bobl ifanc Cymru yn y dyfodol yn llai cymwysedig na’r rhai a aeth o’u blaenau.”
Mae Prifysgolion Cymru’n galw am weithredu brys gan Lywodraeth Cymru a Medr i fynd i’r afael â’r argyfwng cyfranogiad hwn. Mae hyn yn cynnwys rhoi hwb i nifer y bobl ifanc sy’n dilyn cymwysterau a hyfforddiant sy’n rhoi mynediad i’r sgiliau lefel uwch sydd eu hangen ar Gymru yn y dyfodol.
Ychwanegodd Ms Wilkinson:
“Mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru a Medr yn gweithio i ddeall sut i wella a hyrwyddo cyfranogiad Cymru mewn addysg ôl-16 er mwyn sicrhau cyfleoedd i fyfyrwyr heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.