
Addysg Uwch Cymru Brwsel
Mae Addysg Uwch Cymru Brwsel (AUCB) yn hyrwyddo buddiannau prifysgolion Cymru yn Ewrop, gan annog cydweithredu rhwng ymchwilwyr a phartneriaid posibl eraill, yn ogystal â chryfhau cysylltiadau prifysgolion â sefydliadau Ewropeaidd a phartneriaid rhanbarthol. Rydym hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i brifysgolion Cymru am ddatblygiadau a chyfleoedd Ewropeaidd.
Mae AUCB yn gweithio’n agos gyda phrifysgolion a chyrff sector i gynnal a datblygu partneriaethau a threfniadau cydweithredol sy’n bodoli eisoes rhwng prifysgolion, sefydliadau ymchwil a busnesau ledled Ewrop yng nghyd-destun y berthynas sy’n datblygu rhwng yr UE a’r DU.
Cyllido a llywodraethiant
Mae AUCB yn rhan o Brifysgolion Cymru, a chaiff ei gyllido gan holl brifysgolion Cymru a Medr.
Arweinir ein gwaith gan Fwrdd dan gadeiryddiaeth yr Athro Edmund Burke, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, gydag uwch gynrychiolwyr o holl brifysgolion Cymru a Medr.
Rhwydweithiau a phartneriaethau
Mae AUCB yn aelod o:
- ERRIN, Rhwydwaith Ymchwil ac Arloesedd y Rhanbarthau Ewropeaidd, sy'n cynnwys dros 125 o ranbarthau a dinasoedd mewn 22 o wledydd ledled Ewrop.
- UNiLiON, sy'n cynnwys dros 50 o swyddfeydd ym Mrwsel sy'n cynrychioli 150 o brifysgolion ledled Ewrop a Japan.
Ynghyd â chysylltiadau â sefydliadau eraill ym Mrwsel, mae'r rhwydweithiau hyn yn darparu adnodd â chysylltiadau da i sector addysg uwch Cymru â’r nod o gefnogi eu gweithgareddau Ewropeaidd.
Mae AUCB hefyd yn gweithio gyda swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mrwsel a Rhwydwaith Ewropeaidd ehangach Llywodraeth Cymru.
Ymgysylltu Ewropeaidd
Pwysleisiodd Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis Ionawr 2020, ymrwymiad Cymru i ymgysylltiad Ewropeaidd parhaus gyda ffocws penodol ar gryfhau perthnasoedd â phartneriaid allweddol ledled Ewrop.
Mae ymgysylltiad Ewropeaidd yn bwysig i brifysgolion Cymru, gyda llawer o fyfyrwyr a staff Ewropeaidd yn astudio ac yn gweithio ym mhrifysgolion Cymru, a miloedd o gydweithrediadau ymchwil yn digwydd gyda phartneriaid ledled Ewrop.
Mae prifysgolion Cymru’n cymryd rhan yn rhaglen ymchwil ac arloesedd gyfredol Horizon Europe gyda phrosiectau cydweithredol sy’n cynnwys partneriaid ledled Ewrop, yn ogystal â’r Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, Marie Skłodowska Curie Actions a gwobrau’r Cyngor Arloesedd Ewropeaidd.
Derbyniodd Cymru dros €100 miliwn trwy raglen ymchwil ac arloesedd Ewropeaidd Horizon 2020. Mae’r cyllid hwn wedi cefnogi dros 250 o gyfranogion yng Nghymru gan alluogi dros 2,820 o gysylltiadau cydweithredol â 70 o wledydd mewn prosiectau gwerth dros €1.4 biliwn.
Mae myfyrwyr a staff ym mhrifysgolion Cymru’n elwa ar Raglen Taith, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n cefnogi symudedd addysg ryngwladol i Gymru ac oddi yno, gyda symudiadau sylweddol rhwng Cymru a gweddill Ewrop.
Cysylltu â ni
I gael gwybod mwy am AUCB cysylltwch â Berwyn Davies neu Catherine Marston.