
Trawsnewid Bywydau - Sioned Williams AS
Dyma Sioned Williams AS yn egluro sut y bu i’w phrofiadau yn y brifysgol ysbrydoli a chefnogi ei llwybr gyrfa i’r dyfodol – yn gyntaf fel newyddiadurwr gyda’r BBC, ac wedi hynny wrth fynd ymlaen i fod yn Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru.
Astudiodd Sioned Williams radd BA mewn Llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yna Diploma Ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
“Dewisais Brifysgol Aberystwyth ar gyfer fy ngradd oherwydd yr amgylchedd anogol yr oedd yn ei gynnig; roedd yn brifysgol lai, ac roedd yn sefydliad cyfeillgar i fyfyrwyr. Roedd gen i ddiddordeb mawr yng Nghymru ac roeddwn i eisiau archwilio llenyddiaeth, hanes a diwylliant y wlad yn y ddwy iaith.
“Rhoddodd hefyd y cyfle i mi fyw mewn neuadd breswyl cyfrwng Cymraeg, a oedd yn bwysig i mi. Tyfais i fyny mewn cartref Saesneg ei iaith yn ne-ddwyrain Cymru, ond roeddwn i’n awyddus i barhau â datblygu fy sgiliau Cymraeg a chael cyfleoedd cymdeithasol trwy gyfrwng yr iaith. Dylanwadodd cymysgu â siaradwyr Cymraeg yn y brifysgol ar fy ymwybyddiaeth o fywyd y genedl yn ei holl amrywiaeth, yn ogystal â rhoi’r cyfle i mi gwrdd â myfyrwyr ac academyddion o bob rhan o’r DU a thu hwnt.
“Rhoddodd mynd i brifysgol yng Nghymru sail i fy ymwybyddiaeth o’r ‘prosiect cenedlaethol’ fel y bydden ni’n ei alw ym Mhlaid Cymru. Cefais fy ysbrydoli gan yr hyn a astudiais, a chafodd y bobl y deuthum i gysylltiad â nhw, gan gynnwys academyddion a oedd yn gweithio ar bob agwedd o fywyd Cymru, effaith ddofn arnaf. Helpodd fi hefyd i ddeall ble mae Cymru’n perthyn yn y darlun gwleidyddol a diwylliannol byd-eang, sydd wedi ffurfio sail i fy mywyd proffesiynol byth ers hynny - fel newyddiadurwr, tra’n gweithio ym maes cyfathrebu i sefydliadau Cymreig, a nawr fel gwleidydd.
“Roedd y profiad a’r rhwydweithiau a sefydlais yn fy rhoi mewn sefyllfa dda. Ymunais â Phlaid Cymru tra yn y brifysgol, ac fe wnaeth modiwl ysgrifennu creadigol cyfrwng Cymraeg fel rhan o fy ngradd fy ysbrydoli i symud i faes newyddiaduraeth. Cafodd y bobl o'm cwmpas gryn ddylanwad arnaf, gan fy helpu o ran rhoi gwybod i mi am y cyfleoedd a oedd ar gael i mi. Astudiais gwrs ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, a fi oedd y person cyntaf ar fy nghwrs i gael swydd, gan fynd ymlaen i ymuno â'r BBC.
“Rwy’n teimlo’n gryf iawn am effaith drawsnewidiol addysg uwch. Rydym am i bobl ehangu eu gorwelion ar yr un pryd ag archwilio a deall eu lle eu hunain fel dinesydd Cymreig o fewn y wlad ac yn y byd. Hefyd cyfarfod â phobl o bob cefndir, dysgu meddwl yn feirniadol, ymchwilio, ac archwilio cwestiynau, creu rhwydweithiau a datblygu cyfleoedd a fydd yn eich helpu i ffynnu, beth bynnag fo'ch cefndir – dyma beth mae'r brifysgol yn ei roi i chi.
“I mi, mae myfyrwyr rhyngwladol yn dod â chymaint i’n sefydliadau addysg uwch ac yn ein helpu ni yng Nghymru i ffurfio partneriaethau addysgol ffrwythlon. Roeddwn i'n arfer gweithio mewn prifysgol, a gwelais drosof fy hun y diddordeb enfawr oedd gan fyfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru a'n diwylliant, a sut roedden nhw'n ymhyfrydu yn y ffaith ein bod ni'n genedl ddwyieithog. Felly byddwn yn bendant yn annog myfyrwyr rhyngwladol ac academyddion i ddod i’n prifysgolion, sydd o safon fyd-eang!”