Cymru a'r byd: gwerth myfyrwyr rhyngwladol ac allgymorth byd-eang
Dyma Gyfarwyddwr Cynorthwyol Prifysgolion Cymru, Gwen Williams, yn esbonio pam bod addysg ryngwladol ac allgymorth byd-eang mor bwysig i ddyfodol Cymru.
6 November 2024
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol gan Nation Cymru.
Nelson Mandela a awgrymodd mai 'Addysg yw'r arf mwyaf pwerus y gallwch ei ddefnyddio i newid y byd'. Ond beth mae ein hymagwedd at addysg ryngwladol yng Nghymru’n ei ddweud wrthym am ein gwerthoedd fel cenedl a’n parodrwydd i ymgysylltu â’r byd?
Ni ddylid diystyru pŵer addysg ryngwladol. Mae o fudd i’r unigolyn, mae’n cyfoethogi campysau a chymunedau ac yn creu gweithlu at y dyfodol sy’n edrych tuag allan ac yn gysylltiedig yn fyd-eang. Mae’n gwneud synnwyr yn economaidd – gan gynhyrchu £1.26 biliwn mewn effaith allforio i Gymru – ac mae’n tanlinellu ein gwerthoedd fel gwlad agored, groesawgar ac amrywiol.
Ers blynyddoedd bellach, mae gan Gymru enw da iawn yn y maes hwn. Dros y deng mlynedd diwethaf, trwy raglen Cymru Fyd-eang, mae'r sector wedi cydweithio, gyda chefnogaeth y llywodraeth, i feithrin partneriaethau rhyngwladol a hyrwyddo ein sefydliadau yn fyd-eang. Nid yw buddsoddiad Llywodraeth Cymru yng Nghymru Fyd-eang a Taith, cynllun symudedd rhyngwladol Cymru, wedi mynd yn ddisylw’n rhyngwladol ac mae’n destun cenfigen i rannau eraill o’r DU.
Gyda sefydlu Medr, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd Cymru, daw cyfle i osod gweledigaeth ar gyfer y sector addysg ôl-16 i'r dyfodol. I gefnogi hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod un-ar-ddeg o ddyletswyddau strategol ar Medr - o hyrwyddo cyfle cyfartal a dysgu gydol oes, i hyrwyddo ymchwil ac arloesedd, cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol, yn ogystal â hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg.
Wrth osod dyletswydd strategol ar Medr i hyrwyddo ymagwedd fyd-eang, roedd gweinidogion yn deall rôl sylfaenol addysg drydyddol wrth ddatblygu dinasyddion byd-eang, mynd i'r afael â heriau byd-eang, a hybu'r economi.
Mae ein prifysgolion a’n colegau yn gwneud hyn mewn llawer o wahanol ffyrdd:
- Mae myfyrwyr, staff ac ymchwilwyr rhyngwladol yn dod â’r gorau o’r byd i’n campysau a’n cymunedau, gan ryngwladoli profiad myfyrwyr, y sefydliad ehangach a’r ardal leol.
- Mae'r cyfleoedd a gynigir i fyfyrwyr a staff i astudio a/neu weithio dramor yn amhrisiadwy i fyfyrwyr ymhell ar ôl iddynt raddio ac yn creu ymagwedd fyd-eang o ran dulliau addysgu'r staff sy'n cymryd rhan.
- Mae partneriaethau addysg rhwng sefydliadau Cymru a’u cymheiriaid yn rhyngwladol yn creu cyfleoedd ar gyfer addysgu ar y cyd a modelau cyflwyno arloesol eraill, gan ryngwladoli’r cwricwlwm a gwella ansawdd y ddarpariaeth.
- Mae cydweithredu rhyngwladol yn cynhyrchu ymchwil effeithiol, gan gynyddu enw da a statws byd-eang ein sefydliadau.
Fodd bynnag, ni ddylid cymryd yn ganiataol allu colegau a phrifysgolion i barhau i ddarparu’r cyfleoedd hyn.
Mae pwysau gwleidyddol ynghylch mewnfudo yn her. Tra bod mewnfudwyr dros-dro, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol, yn aros o fewn ystadegau mewnfudo net y DU, bydd unrhyw ymdrech i greu system ar gyfer y DU gyfan sy'n fwy croesawgar i fyfyrwyr rhyngwladol yn frwydr galed.
Yn y cyfamser, mae cystadleuaeth fyd-eang am fyfyrwyr rhyngwladol yn dwysáu, ac mae gwledydd ar draws y byd - yn benodol asiantaethau hybu recriwtio rhyngwladol yn Iwerddon, yr Alban, Siapan a Seland Newydd - yn datblygu brandiau cenedlaethol cynyddol soffistigedig ynghyd ag ymgyrchoedd, digwyddiadau a mentrau wedi'u targedu i ddenu myfyrwyr rhyngwladol. Dylid deall y gostyngiad sylweddol yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy’n dewis astudio yng Nghymru – a’r DU yn ehangach – eleni yn y cyd-destun hwn.
Mae trafodaeth gyhoeddus hefyd wedi canolbwyntio'n bennaf ar fyfyrwyr rhyngwladol, eu statws fel mewnfudwyr a'u cyfraniad ariannol i fodel cyllido prifysgolion sydd dan bwysau. Er ei bod yn wir fod prifysgolion wedi gorfod recriwtio mwy yn rhyngwladol i liniaru’r gostyngiad yng ngwerth y ffioedd dysgu domestig, yr hyn sy’n mynd ar goll yw bod sefydliadau’n gosod gwerth uchel ar fyfyrwyr rhyngwladol am eu cyfraniad addysgol a diwylliannol. Mewn sefyllfa wahanol, o dan fodel cyllido gwahanol, efallai y byddem yn mynd ati i recriwtio myfyrwyr rhyngwladol yn wahanol, ond mae cynnal corff myfyrwyr rhyngwladol amrywiol yn hanfodol i ethos a chenhadaeth ddinesig ein sefydliadau.
Gan mai prin yw mynediad i raglenni'r UE a bod cyfyngiadau ar gyllidebau cenedlaethol, sy’n effeithio ymhellach ar allu sefydliadau i ryngwladoli, beth allai rôl Medr fod wrth lunio a hyrwyddo'r agenda hon yn y dyfodol? Pa newidiadau polisi sydd eu hangen ar lefel Cymru a/neu’r DU? A sut gallai fod angen i strategaethau rhyngwladol sefydliadau esblygu?
Ym mis Mawrth 2025, bydd Prifysgolion Cymru – mewn ymgynghoriad â phrifysgolion a cholegau – yn lansio adroddiad, wedi’i ariannu gan Medr, yn nodi eu hargymhellion ar gyfer ymagwedd at addysg ac ymchwil rhyngwladol yn y dyfodol. Bydd yr adroddiad yn tynnu ar gyngor gan banel arbenigol a sefydlwyd yn benodol i’r diben hwn, sy’n cynnwys arweinwyr ym maes addysg ac ymchwil rhyngwladol o Gymru, y DU a thu hwnt.
Gyda’r byd yn newid yn gyflym, yr hyn sy’n amlwg yw na fu rôl darparwyr addysg i edrych tuag allan i’r byd ehangach erioed mor bwysig. Yn y bôn, mae'n ymwneud â'n gwerthoedd – y wlad agored, groesawgar, oddefgar a deinamig yr ydym am fod, a'r sefydliadau a'r dinasyddion sy'n cefnogi’r uchelgais hwnnw.