Trawsnewid Bywydau- Ella Pearson
Yn 18 oed, cafodd Ella Pearson ddiagnosis o Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (BPD). Aeth ymlaen i gwblhau gradd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru (CCDC) ac mae bellach yn astudio gradd meistr mewn chwarae’r cor anglais ac obo. Mae Ella hefyd yn is-lywydd lles Undeb y Myfyrwyr.
“Yn 18 oed, cefais ddiagnosis o BPD. Mae'n gyflwr iechyd meddwl sy'n effeithio ar bob agwedd ar fy mywyd, a nodweddir gan hwyliau dwys na ellir eu rhagweld, perthnasoedd ansefydlog, ymddygiad byrbwyll, ac aflonyddwch mewn canfyddiad neu feddwl.
Dros fy mhedair blynedd yn CCDC, yn gweithio gyda Gwasanaethau Myfyrwyr y Coleg, rwyf wedi dod i ddeall fy hun a’r cyflwr yn well ac wedi dod o hyd i ffyrdd o rymuso fy chwarae a fy mywyd y tu allan i gerddoriaeth.
Mae agwedd gyfannol y Coleg at iechyd meddwl yn golygu bod pob agwedd ar fy nysgu a’m datblygiad yn cael eu cefnogi.
Pan ddes i'r Coleg, teimlais yn syth pa mor gefnogol oedd yr awyrgylch a, thrwy Wasanaethau’r Myfyrwyr, roeddwn yn gwybod bod cymorth ar gael i mi. Maen nhw wedi fy helpu i ddatblygu pecyn cymorth cefnogol i'w gyrchu pan fydd angen.
Nid yw popeth yn ddigalon a thywyll. Mae bod mewn cysylltiad mor ddwfn â fy emosiynau yn arwain at gysylltiad pwerus, dwys â theimlad cerddoriaeth.
Yn fwyaf diweddar, cyflawnais yr ‘oleuedigaeth gerddorol’ hon wrth chwarae i opera ddiweddaraf CCDC, ‘Dialogues of the Carmelites’, lle cefais y cyfle i ddod allan o’r gerddorfa a chwarae unawd deimladwy ar flaen y llwyfan; allaf i ddim pwysleisio pa mor rymusol oedd y teimlad o dorcalon, ewfforia, ac edmygedd trwy gydol yr opera.
I mi, mae hyn yn gwneud iawn am holl isafbwyntiau ofnadwy BPD – mae mor werth chweil pan gewch chi brofi llawenydd pur cerddoriaeth yn ei ffurf fwyaf dwys.”