• Mae pob £1 o arian cyhoeddus a roddir i brifysgolion ledled Cymru yn cynhyrchu dros £13 o effaith economaidd.
     
  • Amcangyfrifwyd bod yr effaith ar economi’r DU sy’n gysylltiedig â gweithgareddau addysgu, ymchwil ac arloesedd sector addysg uwch Cymru gyda’i gilydd oddeutu £10.97 biliwn.
     
  • Cyfrannodd allforion addysgol a ddarparwyd gan brifysgolion Cymru trwy eu gweithgarwch rhyngwladol £1.26 biliwn o effaith economaidd.
     
  • Cyfanswm effaith economaidd gweithgareddau ymchwil a chyfnewid gwybodaeth prifysgolion Cymru yw £1.98 biliwn.

Yn yr adroddiad diweddaraf hwn, dadansoddodd London Economics effaith gweithgareddau addysgu, ymchwil ac arloesedd prifysgolion Cymru ar economi’r DU, gan ganolbwyntio ar y flwyddyn academaidd 2021-22.

Mae’r ffigurau’n dangos bod gweithgareddau addysgu, ymchwil ac arloesedd sector addysg uwch Cymru wedi cael effaith economaidd net o £7.25 biliwn. O’i gyfuno â dadansoddiad blaenorol gan London Economics o wariant uniongyrchol y sector a budd economaidd myfyrwyr rhyngwladol, roedd cyfanswm yr effaith ar draws addysg uwch Cymru yn £10.97 biliwn.

Wrth gymharu â chost gyhoeddus y gweithgareddau hyn, canfu London Economics gymhareb cost a budd o 13.1 i 1. Mae hyn yn golygu bod dros £13 o fudd economaidd yn cael ei gynhyrchu am bob £1 o arian cyhoeddus a fuddsoddir ym mhrifysgolion Cymru.

Roedd yr adroddiad hefyd yn glir ynghylch manteision economaidd gweithgareddau rhyngwladol addysg uwch, gydag allforion addysgol a ddarperir gan brifysgolion Cymru’n cyfrannu £1.26 biliwn o effaith.

Mae hefyd yn dangos enillion cadarnhaol enfawr i’r pwrs cyhoeddus o ariannu addysg uwch myfyrwyr, gyda’r Trysorlys yn gweld budd o £77,000 am bob myfyriwr sy’n graddio, hyd yn oed ar ôl ystyried cost y cymhorthdal ar gyfer eu haddysg trwy fenthyciadau a grantiau.

Mae’r adroddiad, a gomisiynwyd gan sefydliad Prifysgolion Cymru, sy’n cynrychioli’r naw prifysgol yng Nghymru, yn canolbwyntio ar y 52,800 o fyfyrwyr domestig a ymunodd â phrifysgolion Cymru yn 2021-22. 

Wrth wneud sylwadau ar ganfyddiadau’r adroddiad, dywedodd yr Athro Paul Boyle, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:

“Mae ein prifysgolion yn allweddol i ffyniant economaidd a chymdeithasol Cymru yn y dyfodol, gan weithredu fel angorau economaidd hollbwysig ym mhob rhan o Gymru. Ac mae adroddiad heddiw yn datgelu llawn faint y buddion y mae prifysgolion Cymru yn eu cyfrannu i'n heconomi a'n cymunedau.

“Yr hyn sy’n arbennig o drawiadol o ganfyddiadau’r adroddiad yw bod pawb yn y wlad yn elwa o waith ein prifysgolion, p’un a ydyn nhw wedi bod i brifysgol ai peidio.

“Yn ogystal â bod yn gyflogwyr a busnesau sylweddol yn eu rhinwedd eu hunain, mae ein prifysgolion yn cynhyrchu ac yn cefnogi swyddi o fewn nifer o sectorau ar hyd a lled y DU. Maent hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth gynhyrchu graddedigion medrus a datblygiadau ym maes ymchwil a thechnolegol, ochr-yn-ochr â chreu’r cwmnïau a’r busnesau newydd a fydd wrth wraidd twf economaidd yn y dyfodol.”

Mae adroddiad London Economics hefyd yn tynnu sylw at dystiolaeth sy'n dangos yr ystod o fanteision ehangach, i raddedigion a chymdeithas, o addysg prifysgol. Mae'r rhain yn cynnwys cynhyrchiant gwaith uwch ar gyfer y graddedigion a'u cydweithwyr, gwell deilliannau iechyd a llai o siawns y byddant yn ymwneud â throseddau.

Ychwanegodd yr Athro Boyle:

“Mae’n amlwg bod gan addysg uwch ran allweddol i’w chwarae wrth i ni fynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr sy’n ein hwynebu fel cymdeithas. Fodd bynnag, mae hwn yn gyfnod hollbwysig i’n prifysgolion. Rhaid i ni sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth a’r buddsoddiad angenrheidiol fel y gallant barhau i ysgogi twf economaidd pellach, cryfhau economi Cymru, a chreu cymdeithas iachach, gyfoethocach a thecach.”