Mae Prifysgolion Cymru'n edrych ymlaen at weithio gyda Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch newydd
Mewn ymateb i Gabinet newydd Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, Amanda Wilkinson:
11 September 2024
"Hoffem longyfarch Vikki Howells ar ei phenodiad yn Weinidog Addysg Bellach ac Uwch a Lynne Neagle ar ei rôl barhaus fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
"Rydym wedi bod yn ffodus i gael perthynas adeiladol, gadarnhaol ag Ysgrifennydd y Cabinet sydd wedi gweithio gyda ni i gydnabod yr heriau i brifysgolion yng Nghymru ac wedi hyrwyddo addysg uwch Cymru yn rhyngwladol.
"Mae hon yn foment dyngedfennol i addysg yng Nghymru; nid yn unig oherwydd y pwysau ariannol brys sy'n ein hwynebu ond hefyd yr hyn yr ydym mewn perygl o golli.
"Gyda chyfranogiad addysg uwch yng Nghymru ar ei isaf yn y DU, rydym mewn perygl o golli cyfleoedd i bobl wireddu eu potensial. Ac mae’r pwysau y mae ein sefydliadau’n eu hwynebu yn peryglu’r potensial ar gyfer gweithgarwch ymchwil ac arloesi sy’n gallu helpu goresgyn rhai o’n rhwystrau mwyaf gan gynnwys newid yn yr hinsawdd a phwysau ar y gwasanaeth iechyd.
"Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Gweinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet i fynd i’r afael â’r heriau hyn a sicrhau, drwy gydweithio â’r llywodraeth ac eraill, y gallwn ddatgloi potensial Cymru, diogelu ein cymunedau lleol a sbarduno twf economaidd."