Mae Prifysgolion Cymru yn croesawu Prif Weinidog newydd
Heddiw, cadarnhawyd Eluned Morgan AS fel Prif Weinidog newydd Cymru. Meddai Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru:
6 August 2024
“Ar ran prifysgolion Cymru, hoffwn longyfarch Eluned Morgan ASC ar ei phenodiad yn Brif Weinidog Cymru.
“Mae Cymru’n wynebu heriau sylweddol: o newid hinsawdd i’r angen am gryfhau ein heconomi, o ddatblygiadau technolegol i newid demograffig.
“Ond, ar lefel fwy sylfaenol, rydym hefyd yn wynebu rhai o’r heriau cyfranogiad addysg mwyaf enbyd mewn hanes diweddar, gan olygu bod pobl ifanc yn colli allan ar y cyfleoedd a oedd o fudd i’r rhai a ddaeth o’u blaenau.
“Mae prifysgolion wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Boed hynny trwy’r gwaith rydym yn ei wneud i greu busnesau newydd, cyflawni ymchwil ac arloesedd sy’n cael effaith ddwys, neu ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu addysg, sgiliau a hyfforddiant ledled Cymru, mae rôl i’n prifysgolion weithio gyda’r llywodraeth a helpu â datgloi potensial Cymru.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Prif Weinidog a’i chydweithwyr i fynd i’r afael â’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu, a bwrw ymlaen â’i huchelgais am Gymru lle gall pawb gyflawni eu potensial beth bynnag fo’u cefndir.”