Gostyngiad brawychus mewn ceisiadau prifysgol gan bobl ifanc 18 oed yng Nghymru
Mae ffigurau newydd a ryddhawyd heddiw yn dangos cwymp brawychus yng nghyfran y bobl ifanc 18 oed yng Nghymru sy’n gwneud cais i fynd i brifysgol, gyda’r bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU ar ei ehangaf.
17 July 2024
Meddai Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru:
'Mae data UCAS heddiw unwaith eto’n dangos maint yr her cyfranogiad sy'n wynebu Cymru, gyda nifer yr ymgeiswyr o Gymru yn gostwng i'r lefel isaf ers 15 mlynedd. Bellach mae gennym y gyfran isaf o bobl ifanc 18 oed sy’n gwneud cais am le mewn prifysgol yn y DU, gyda’r bwlch rhwng Cymru a’r DU yn ehangach nag ar unrhyw adeg yn ein hanes diweddar.
'Mae i’r gostyngiad hwn oblygiadau hirdymor i Gymru. Mae’r diwydiannau a fydd yn sbarduno ein twf economaidd yn y degawdau i ddod yn dibynnu’n helaeth ar raddedigion. Ond nid ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus yn unig fydd yn dioddef; byddai pobl hefyd yn elwa o’r profiad trawsnewidiol yn sgil addysg uwch. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Medr, gan godi’r pryderon hyn a chyflwyno’r achos dros wneud cyfranogiad yn flaenoriaeth allweddol.
'Mewn man arall yn y data, mae'n galonogol gweld Cymru'n parhau i fod yn gyrchfan boblogaidd i fyfyrwyr, gyda phrifysgolion Cymru’n gweld y cynnydd mwyaf mewn ceisiadau yn y DU. Mae hyn yn cynnwys bod yr unig ran o'r DU i weld cynnydd mewn ceisiadau gan israddedigion rhyngwladol.'